Ffeiriau Nadolig yn 'cynnal' meicro fusnesau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gareth Goodman - Soap Shack
Disgrifiad o’r llun,

Mae busnes sebon Gareth Goodman wedi tyfu cymaint dros y tair blynedd diwethaf fel ei fod yn canolbwyntio ar y busnes yn llawn amser

Mae'r ffeiriau Nadolig niferus sy'n cael eu cynnal adeg yr ŵyl yn allweddol i werthiant ac elw, yn ôl busnesau meicro sydd o fewn y diwydiant manwerthu.

Yn ôl ystadegau mae 95% o holl fusnesau Cymru'n rai meicro, gan greu 35% o gyfanswm yr holl swyddi.

Mae busnes yn cael ei ystyried fel un meicro os ydyn nhw'n cyflogi hyd at naw o weithwyr, ac ers 2003 mae niferoedd y busnesau yma wedi cynyddu 59.5% yng Nghymru.

Yn ôl Banc Datblygu Cymru mae'r math yma o fusnes yn "cadw Cymru i ffynnu".

Ateb y galw

Mae cyfnod y Nadolig yn gyfle i fusnesau gynyddu eu gwerthiant wrth i bobl baratoi ar gyfer yr ŵyl.

Un sydd wedi tyfu ei busnes - Glamôr - dros y tair blynedd diwethaf, yn dilyn galw cynyddol am ei hategolion i fenywod ydy Caryl Glyn Morris.

Disgrifiad o’r llun,

Fe dyfodd busnes Caryl Glyn Morris yn dilyn galw cynyddol gan ei chwsmeriaid mewn ffeiriau a digwyddiadau

"I ddechrau, dim ond siop ar wîb oedden ni yn mynd rownd ffeiriau a 'neud nosweithiau Merched y Wawr a'r WI a neu sioeau bach, ac fe fuon ni'n 'neud hynny am byti blwyddyn neu ragor," meddai.

"Roedd pobl yn aml yn gofyn 'ble ma'ch siop chi?'

"O'dd dim bwriad agor siop, ond wrth bod y busnes yn cynyddu, a bod 'na safle wedi dod yn Aberaeron, fe benderfynon ni agor macyn poced o siop.

"Siop fach yw hi ond mae'n gweithio'n grêt i ni."

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer fawr o fusnesau meicro yn ymweld â ffeiriau Nadolig fel yr un yma yn Llanerchaeron dros y penwythnos

Mae cwmni Soap Shack yng Nghastellnewydd Emlyn yn mynd i rhyw 50 ffair drwy gydol y flwyddyn, ac erbyn hyn mae'r busnes wedi tyfu digon i fod yn brif gynhaliaeth i'r perchnogion.

Dywedodd Gareth Goodman: "Nadolig, ni'n brysur am tua mis gyda phopeth.

"Ma'r siop yn brysur hefyd, ma' popeth yn mynd ymlaen a ni'n gwneud wholesale hefyd, ni'n hala stwff dros y wlad, ni'n hala stwff dros Brydain i gyd."

"Just fi a'r wraig sy'n 'neud popeth, wel, hi yn fwy na fi! Dwi'n trio, ond hi yw brains yr operation!"

Disgrifiad o’r llun,

Athrawes yw Anwen Jenkins yn ei gwaith bob dydd, ond mae'n gwerthu ei chrefft mewn ffeiriau yn ei hamser sbâr

Newydd ddechrau mentro ar ei phen ei hun mae Anwen Jenkins, gyda'i busnes ffeltio Anibendod.

Dywedodd Ms Jenkins, sy'n athrawes o ddydd i ddydd: "Dwi'n 'neud hyn ers rhyw flwyddyn, blwyddyn a hanner falle, wi'n joio neud e. I fi, just amser i ymlacio yw e yn y nos."

"Dwi'n gwerthu drwy gwpl o siopau yn Aberystwyth a rhai yn y gogledd ond yn gwerthu lot trwy Instagram a Facebook, ma' fe just yn rhwydd, mae pawb arno fe diwrnodau 'ma."

'Cefnogi'r gymuned'

"Ni yn fusnes bach, ni yn cyflogi un person arall," meddai Angharad Morgan, sy'n berchen ar Siop Inc yn Aberystwyth.

Fe ddechreuodd hi ei busnes gwerthu llyfrau 15 mlynedd yn ôl ac mae hi bellach yn mynychu ffeiriau a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.

"Dyw e ddim wastad am y gwerthu chwaith, mae rhywun yn eich gweld chi ma a'n eu hatgoffa nhw bod siop gyda fi yn Aberystwyth a bod gen i leoliad arall.

"Hefyd, pan ni'n mynd i ysgolion a phethau bach felly, mae'n fwy o gefnogi'r gymuned. Mae mwy iddo fe na beth sy'n mynd mewn i'r til."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Morgan, Siop Inc, yn ymweld â ffeiriau a digwyddiadau drwy'r flwyddyn er mwyn codi proffil ei busnes

Mae Banc Datblygu Cymru yn gyfrifol am Gronfa Micro Fenthyciadau, sy'n medru rhannu £16.2m i fusnesau meicro a bach eu maint sydd awydd datblygu a thyfu.

Mae modd i fusnesau wneud cais am rhwng £1,000 a £50,000 er mwyn ei wario ar rentu neu brynu eiddo newydd, offer neu wisgoedd gwaith, marchnata, prynu stoc a llogi staff.

Yn ôl Nicola Edwards, Rheolwr y Gronfa Micro Fenthyciadau ym Manc Datblygu Cymru ar y pryd: "Mae Cymru wedi'i hadeiladu ar economi o fusnesau bach i ganolig sydd yn aml yn gweithredu ar lefel llawr gwlad, gan gadw cymunedau'n ffynnu."