Rhybudd am ddiwrnod arall o wyntoedd cryfion i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai gwyntoedd cryfion daro Cymru unwaith eto ddydd Mawrth.
Fe wnaeth dros 1,300 o gartrefi golli eu cyflenwad trydan ddydd Llun, wrth i hyrddiadau o bron i 80mya daro Pen Llŷn.
Dywedodd peirianwyr eu bod wedi llwyddo i adfer y cyflenwad i'r mwyafrif llethol erbyn nos Lun.
Ond mae rhybudd melyn arall am wynt mewn grym ar gyfer gogledd a chanolbarth Cymru ddydd Mawrth.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd eu bod yn rhagweld gwyntoedd o hyd at 70mya mewn mannau arfordirol nes 17:00.
Ychwanegon nhw fod oedi i deithwyr ar y ffyrdd, rheilffyrdd a fferïau yn bosib.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2019