Cwblhau taith trên stem o Langollen i Gorwen

  • Cyhoeddwyd
Mae dal angen cwblhau gwaith ar y platfform yng NghorwenFfynhonnell y llun, Prosiect Rheilffordd Corwen
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna dal angen cwblhau gwaith ar y platfform yng Nghorwen

Mae'r gwaith o adfer hen reilffordd rhwng Llangollen a Chorwen yn Sir Ddinbych ar fin cael ei gwblhau ar ôl cyfnod o 45 mlynedd.

Cafodd 10 milltir o gledrau eu hail osod ar gyfer y gwasanaeth trên stem, gyda phlatfform newydd yn cael ei godi yng Nghorwen.

Yn gynharach eleni cafodd y £10,000 olaf ei godi ar gyfer gwaith angenrheidiol yng ngorsaf newydd Corwen.

Mae disgwyl i'r holl waith ar y llinell gael ei gwblhau yn ffurfiol ddydd Mawrth.

"Mae'n achlysur pwysig, nid yn unig i'r gwirfoddolwyr sy' wedi gwneud y gwaith, ond hefyd i bobl Corwen sydd wedi bod mor gefnogol i'r cynllun," meddai George Jones o Brosiect Rheilffordd Corwen.

Ffynhonnell y llun, Rheilffordd Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd y gwaith o adfer y rheilffordd yn 1975

Mae disgwyl i'r gwasanaeth llawn rhwng Llangollen a Chorwen ddechrau'r flwyddyn nesaf ar ôl i brofion gael eu cynnal ar y traciau.

Yn y cyfamser fe fydd y gwaith o gwblhau'r platfform yng Nghorwen yn cael ei gwblhau.

Dywedodd Bill Shakespeare, llywydd Rheilffordd Llangollen sy'n 92 oed: "Doeddwn i ddim yn tybio pan gafodd y cledrau cyntaf eu gosod yn Llangollen nôl yn 1975 y byddai'n cymryd cyhyd i gyrraedd gorsaf newydd yng Nghorwen!"