Annog selogion ceir i beidio ymddwyn yn wrthgymdeithasol

  • Cyhoeddwyd
Stryd Fawr NeylandFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynnydd wedi bod yn ddiweddar yn nifer y cwynion ynghylch gyrru gwrthgymdeithasol yn Neyland, medd yr heddlu

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi trefnu digwyddiad "cyfeillgar" ar gyfer pobl sy'n gwirioni ar geir fel rhan o'u hymateb i gwynion ynghylch achosion o yrru gwrthgymdeithasol.

Dywedodd y llu bod nifer y cwynion wedi cynyddu yn ddiweddar yn Neyland, Sir Benfro a'u bod "yn ceisio edrych ar y sefyllfa mewn ffordd wahanol".

Maen nhw'n gobeithio y bydd y digwyddiad yng Nghei Brunel ddydd Sadwrn yn mynd i'r afael â rhwystrau rhwng gyrwyr, trigolion a'r heddlu.

"Rydyn ni'n gwybod nad ydy pob un sy'n gwirioni ar geir a gyrru o gwmpas yr ardal yn boy [neu] girl racers," meddai'r Sarjant Justin Williams o Uned Plismona'r Ffyrdd yn Sir Benfro.

"Dydyn ni ddim eisiau stopio'r bobl yma fwynhau bod yn eu cerbydau, cyn belled â'u bod yn gwneud hynny'n ddiogel ac yn feddylgar."

Ychwanegodd mai'r nod yw cynnal "digwyddiad cyfeillgar" lle gall y rhai sy'n hoff o geir drafod gyda'r heddlu ac asiantaethau eraill, gyda'r gobaith o gael gwell ddealltwriaeth o bryderon y gymuned leol.

"Rwy'n gobeithio y bydd sgwrsio am effaith gyrru gwrthgymdeithasol yn helpu i leihau'r broblem," meddai.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru hefyd yn rhan o'r digwyddiad, rhwng 15:00 a 21:00 ddydd Sadwrn, ynghyd â chwmni sy'n arbenigo mewn gosod pob math o offer o fewn cerbydau.