Y Bencampwriaeth: Abertawe 3-1 Middlesbrough
- Cyhoeddwyd
Mae Abertawe wedi dod a rhediad o chwe gêm heb ennill i ben yn dilyn buddugoliaeth dros Middlesbrough, a orffennodd y gêm gyda naw dyn ar y cae.
Roedd yr Elyrch ar y blaen ar ôl 22 munud wedi i Andrew Ayew gael ei faglu gan Dael Fry yn y cwrt cosbi, gydag Ayew ei hun yn sgorio'r gic o'r smotyn a ddilynodd.
Fe wnaeth Marcus Tavernier unioni'r sgôr ar ôl 59 munud, ond cyn pen dim roedd yr ymwelwyr i lawr i 10 dyn wedi i Marcus Browne gael cerdyn coch am neidio i mewn ar Mike van der Hoorn.
Roedd hynny'n sbardun i Abertawe ac fe aethon nhw nôl ar y blaen diolch i ail gôl y prynhawn i Ayew.
Ychwanegodd Sam Surridge drydedd bron yn syth, cyn i brynhawn Boro fynd o ddrwg i waeth gydag ail gerdyn coch, y tro yma i Paddy McNair.