Beirniadu darlithydd am gymharu Ceidwadwyr i 'fermin'

  • Cyhoeddwyd
Andrew RT Davies ac Andy Williams

Mae cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad wedi beirniadu darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd am awgrymu bod pobl oedd wedi pleidleisio dros y Ceidwadwyr yn "fermin".

Dywedodd Andrew RT Davies y byddai'n cysylltu gyda'r brifysgol i fynegi ei bryderon, gan ddweud nad oedd iaith o'r fath yn annog "awyrgylch gynhwysol a goddefgar".

Roedd y darlithydd, Dr Andy Williams, wedi trydar o'i gyfrif personol yn ymateb i batrymau pleidleisio gan ddweud bod dynion Prydeinig a phobl hŷn yn "fwy tebygol yn ystadegol o fod yn fermin na menywod a phobl ifanc".

Fe amddiffynnodd ei sylwadau mewn negeseuon pellach, gan ddweud ei fod yn "dyfynnu Nye Bevan, arwr gwleidyddol i mi", a'i fod yn "sefyll wrth fy nghred bod Torïaid yn fermin".

'Angen cymryd camau'

Roedd neges wreiddiol Andy Williams, sy'n ddarlithydd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd, yn ymateb i ddata o arolwg barn ar yr etholiad cyffredinol.

Roedd y data hwnnw yn awgrymu bod dynion ac etholwyr hŷn wedi bod yn fwy tebygol o bleidleisio dros y Ceidwadwyr.

Mewn ymateb i sylw Dr Williams fe drydarodd Mr Davies: "Dyma i chi ddarlithydd prifysgol. Rydw i'n amddiffynnwr cryf o ryddid barn, ond dwi ddim yn siŵr sut all Prifysgol Caerdydd gynnal awyrgylch gynhwysol a goddefgar pan mae staff dysgu'n ymddwyn fel hyn.

"Byddaf yn ysgrifennu at yr is-ganghellor i fynegi fy mhryder."

negeseuon Andrew RT Davies ac Andy WilliamsFfynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Neges wreiddiol Andy Williams ac ymateb Andrew RT Davies

Ychwanegodd Mr Davies wrth BBC Cymru ei fod eisiau gwybod a oedd sylwadau'r darlithydd yn rhan o "batrwm ehangach gan eraill o fewn y sefydliad".

"Mae angen cymryd camau eang os ydy hyn yn digwydd mewn llefydd eraill," meddai AC Canol De Cymru. "Petai hyn yn sôn am hil, crefydd neu ogwydd rhyw byddai pobl yn gandryll.

"Beth sy'n bryderus yw ei fod e'n ddarlithydd yn un o'n prifysgolion amlycaf ac mae e mewn safle o ymddiriedaeth.

"Rydych chi i fod i edrych ar ôl myfyrwyr o bob cefndir. Mae'n dangos tueddiadau sy'n beryglus."

negeseuon pellach Andy WilliamsFfynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Mewn ymatebion pellach fe wnaeth Andy Williams amddiffyn ei sylwadau

Yn dilyn y sylwadau cafodd Andy Williams, a dreuliodd gyfnod byr fel ymchwilydd i AC Plaid Cymru Leanne Wood yn 2004. ei feirniadu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ond mewn negeseuon pellach fe amddiffynnodd ei sylwadau.

Mewn un ymateb dywedodd: "Roeddwn i'n dyfynnu Nye Bevan, arwr gwleidyddol i mi. Rydw i'n sefyll wrth fy nghred bod Torïaid yn fermin.

"Dyw'r bobl sydd yn cefnogi'r dinistr dynol mae'r blaid Geidwadol yn ei greu, yn fwriadol neu beidio, ddim yn haeddu parch."

Mewn neges arall dywedodd mai'r "unig broblem gyda metaffor y fermin yw fy mod i'n 'nabod sawl llygoden fawr sydd ddim mor ddrwg â hynny".

Ar ran Prifysgol Caerdydd dywedodd llefarydd: "Sylwadau personol Dr Williams yw rhain wedi cael eu mynegi ar ei gyfrif personol. Dydyn nhw ddim yn adlewyrchu barn Prifysgol Caerdydd. Byddwn yn ateb llythyr Mr Davies wedi i ni ei dderbyn."