'Dim digon i atal sarhau' ar y cyfryngau cymdeithasol

  • Cyhoeddwyd
Stephen DoughtyFfynhonnell y llun, UK Parliament

Mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi mynd yn "garthbwll" sarhaus i ffigyrau cyhoeddus, yn ôl un AS Llafur o Gymru.

Dywedodd Stephen Doughty nad yw'r gwefannau'n "gwneud digon" am y broblem, wedi i Facebook ddweud nad oedd neges sarhaus wedi torri eu rheolau.

"Yn yr un ffordd na fyddech chi'n disgwyl y math yma o ymddygiad wyneb yn wyneb, ni ddylai fod yn dderbyniol ar-lein chwaith," meddai.

Dywedodd Facebook nad oedd lle ar gyfer bwlio nac aflonyddu ar eu gwefan.

Ffigyrau cyhoeddus

Fe wnaeth ymchwil gan Brifysgol Sheffield ganfod bod nifer y negeseuon sarhaus i wleidyddion wedi cynyddu o tua 10,000 yn ystod etholiad cyffredinol 2015 i tua 25,000 erbyn etholiad 2017.

Cafodd AS De Caerdydd a Phenarth, sy'n dweud iddo dderbyn sylwadau sarhaus yn aml, wybod gan Facebook nad oedd neges yn cynnwys iaith gref yn "torri ein rheolau".

Mewn neges, dywedodd y wefan fod y math o weithgaredd yr oedd Mr Doughty wedi achwyn amdano "fel arfer, yn gyffredinol, yn cael ei ystyried fel bwlio".

"Fodd bynnag, dydyn ni ddim yn gweithredu'n polisïau bwlio pan mae'n dod at ffigyrau cyhoeddus achos rydyn ni eisiau caniatáu trafodaeth, sydd yn aml yn cynnwys trafodaeth feirniadol o bobl sydd wedi bod yn y newyddion neu sy'n gyfarwydd i lawer o'r cyhoedd."

Ffynhonnell y llun, Reuters

Wrth siarad ar BBC Radio Wales ddydd Gwener, dywedodd Mr Doughty: "Dydw i ddim yn credu bod cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn gwneud digon.

"Maen nhw'n honni eu bod yn hapus gyda'r ymdriniaeth wirfoddol ond dwi'n meddwl ei fod e'n gynyddol yn troi mewn i ychydig o garthbwll ar-lein."

Dywedodd Mr Doughty ei fod wedi derbyn sylwadau sarhaus "yn y dyddiau diwethaf" a'i fod yn aml yn cael ei sarhau ar-lein.

"Mae Facebook wedi dod 'nôl ata i ac mewn ffordd dweud bod ffigyrau cyhoeddus yn gorfod delio gyda lefel wahanol o sarhau i bobl eraill, ac felly fyddan nhw ddim yn tynnu'r sylwadau oddi yno na'n rhwystro sylwadau gan unigolion hyd yn oed os ydyn nhw'n reit eithafol," meddai.

"Rydyn ni wedi gweld yn y dyddiau diwethaf, seneddwr o Awstralia yn cael neges yn dweud y dylai gael ei saethu a Facebook yn gwrthod ei ddileu. Dim ond esiampl o nifer yw hwn."

Ychwanegodd yr AS Llafur: "Yn yr un ffordd na fyddech chi'n disgwyl i'r math yma o ymddygiad fod yn dderbyniol wyneb i wyneb, neu rywun yn cerdded i mewn i ystafell a gweiddi pethau hiliol, rhywiaethol, homoffobig neu sarhaus, ni ddylai fod yn dderbyniol ar-lein chwaith.

"Yn anffodus po fwyaf mae'r math yma o ymddygiad yn cael ei dderbyn, y mwyaf yw'r peryg y gallai arwain at ambell unigolyn eithafol i benderfynu bod hi'n iawn gweithredu ar hynny."

'Caniatáu trafodaeth'

Dywedodd Facebook y bydden nhw'n "dileu cynnwys sydd yn fwriadol yn targedu unigolion preifat gyda'r bwriad o'u darostwng neu eu cywilyddu", ond fod eu "polisïau bwlio ddim yn berthnasol i ffigyrau cyhoeddus am ein bod eisiau caniatáu trafodaeth".

Ychwanegodd llefarydd ar ran y cwmni: "Does dim lle ar gyfer trolio, bwlio neu aflonyddu ar Facebook.

"Rydyn ni wedi esbonio wrth Stephen Doughty ein bod ni'n bendant yn cymryd camau yn erbyn unrhyw sylwadau o gasineb neu fygythiadau credadwy tuag at ffigyrau cyhoeddus, fel y bydden ni i unrhyw un ar Facebook."