Gwynt a glaw i lawer o Gymru ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd
rhybuddionFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi dau rybudd am dywydd garw yng Nghymru ddydd Mercher.

Daw'r rhybudd cyntaf - am wyntoedd cryfion ar hyd gorllewin Cymru - i rym am 14:00, ac mae'n para tan 03:00 fore Iau.

Rhybudd am law trwm yw'r ail a hynny dros siroedd y de ddwyrain rhwng 14:00 ddydd Mercher a 12:00 ddydd Gwener.

Bydd y gwyntoedd yn effeithio ar ardaloedd arfordirol yn bennaf, ac mae disgwyl oedi ar y ffyrdd, y rheilffyrdd a llongau fferi.

Mae disgwyl oedi hefyd i gerbydau uchel sy'n croesi pontydd.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae colli cyflenwadau trydan a gwasanaethau eraill mewn mannau yn bosibl.

Gallai'r gwyntoedd hyrddio ar gyflymder o 70mya ar hyd yr arfordir, ond tua 55mya ar ei uchaf yn bellach o'r môr.

Glaw dros y de ddwyrain

Yn y prynhawn bydd glaw trwm yn lledu o'r dwyrain gyda hyd at 50mm o law yn disgyn dros y cyfnod, a hyd at 90mm ar dir uchel yn ne Cymru.

Gan fod y tir eisoes yn dirlawn yn yr ardaloedd yma, fe allai'r glaw achosi trafferthion.

Bydd dŵr yn tasgu ar y ffyrdd gan wneud teithiau car a bws yn anoddach, ac mae llifogydd yn debygol mewn ychydig o gartrefi a busnesau.

Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd bod cyfnodau sychach yn debygol dros y dyddiau nesaf, ond nad oedd yn sicr pryd y byddai rheiny.

Mae'r rhybudd am law mewn grym i holl siroedd canolbarth a de Cymru.