M4: Argymell cyfyngu'r cyflymder i 50mya
- Cyhoeddwyd
Byddai cyfyngu'r cyfartaledd cyflymder i 50mya yn gwella llif traffig ar yr M4 ger Casnewydd, yn ôl comisiwn o arbenigwyr.
Mae Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru wedi argymell nifer o fesurau i leihau'r tagfeydd ger twnelau Brynglas.
Byddai'r cyfyngiad o 50mya yn weithredol drwy'r dydd rhwng cyffyrdd 24 a 28.
Ond mae'r Comisiwn, gafodd ei sefydlu yn dilyn y penderfyniad i beidio bwrw 'mlaen gyda ffordd liniaru'r M4, yn cydnabod y bydd hyn yn golygu amseroedd hirach ar gyfer teithiau y tu allan o'r oriau brig.
Argymhelliad arall yw mwy o "ganllawiau lonydd" ar y ffordd orllewinol cyn y twnelau, a bolardiau symudol i atal pobl rhag newid lôn yn hwyr.
Galwodd yr adroddiad am fwy o gefnogaeth swyddogion traffig, gan bennu amseroedd ymateb ffurfiol ac ardaloedd patrôl ehangach fyddai hefyd yn gyfrifol am yr A48 ac A4810 yng Nghasnewydd.
Pam fod tagfeydd mor ddrwg ger twnelau Brynglas?
Dywedodd y comisiwn eu bod wedi ystyried yr M4 rhwng cyffyrdd 23 a 29.
Fe ddywed eu hadroddiad: "Mae tagfeydd yn gwaethygu pan mae cerbydau yn teithio ar gyflymderau gwahanol ac yn newid lonydd yn aml. Mae'r broblem ar ei gwaethaf wrth gyrraedd twnelau Brynglas yn yr oriau brig."
Yr M4 ger Casnewydd oedd yn bedwerydd ar restr traffyrdd prysuraf y DU, ac ymhlith y 50 prysuraf yn Ewrop, medd yr adroddiad.
Daeth i'r canlyniad fod y draffordd yn cael trafferth darparu lle i fwy na 3,000-4,000 o gerbydau bob awr - ar yr oriau brig mae tua 4,000-5,000 o gerbydau yr awr yn teithio ger y twnelau.
Mae'r data'n awgrymu fod mwy o deithwyr yn byw yng Nghymru a gweithio yn Lloegr na'r gwrthwyneb.
Ychwanegodd fod tagfeydd yn arwydd o broblemau ehangach, "yn enwedig diffyg dewisiadau teithio eraill sy'n briodol ac yn ddeniadol".
"Mae ein dadansoddiad cychwynnol yn awgrymu fod teithio mewn car preifat ar y draffordd yn gyflymach ac yn rhatach na defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus er y tagfeydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Awst 2019
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2019