Gwesty Seiont Manor yn Llanrug heb dalu staff ar amser
- Cyhoeddwyd
Mae gwesty moethus yng Ngwynedd wedi dweud y bydd staff yno'n cael eu talu yn dilyn protestio cyhoeddus.
Mae rhaglen Newyddion 9 ar ddeall fod Seiont Manor yn Llanrug wedi ymddiheuro i'w staff am yr oedi cyn y Nadolig.
Wrth i nifer o aelodau staff brotestio tu allan i'r gwesty ddydd Mercher, mae'r rheolwyr wedi sicrhau gweithwyr y byddan nhw'n cael eu talu.
Daeth Newyddion 9 i wybod fod y gwesty wedi beio'r oedi ar anghydfod rhwng y cyfranddalwyr sy'n berchen ar yr eiddo.
Mae'r gwesty yn cael ei redeg gan gwmni o'r enw Seiont Manor Ltd, sy'n dal y denantiaeth.
Dywed rhai staff eu bod wedi gorfod defnyddio banciau bwyd wrth aros i gael eu talu.
Roedd gweithwyr a oedd yn aros am eu cyflogau i fod i gael eu talu ar 7 Rhagfyr.
Ar ei wefan, mae Seiont Manor yn cael ei ddisgrifio fel "gwesty plasty moethus" yn "y lleoliad gwyliau mwyaf perffaith yng ngogledd Cymru".
Prynwyd Seiont Manor gan y datblygwyr Paul a Rowena Williams yn 2016, un o sawl eiddo mawr sydd ganddyn nhw yn yr ardal, gan gynnwys y plasty hanesyddol Plas Glynllifon, ger Caernarfon.
Ymunodd y cwpl â phartneriaeth ar Seiont Manor a Phlas Glynllifon gyda chwmni o'r enw Mylo Capital Ltd yn 2018.
Dywedodd Cyfreithwyr Glaisyers eu bod yn gweithredu ar ran Mr a Mrs Williams mewn perthynas ag anghydfod ynghylch cyfranddaliadau sy'n gysylltiedig â pherchnogaeth y gwesty.
Dywedodd Glaisyers mai "bwriad Mr a Mrs Williams oedd gwneud popeth yn eu gallu i adennill rheolaeth dros y gwesty a gwarchod ei fusnes a'i swyddi".
Ond dywedodd y cyfreithwyr na allan nhw wneud sylw pellach ar hyn o bryd oherwydd bod achos cyfreithiol "ar fin digwydd".
Nid yw BBC Cymru wedi gallu cysylltu â Mylo Capital Ltd.