Graeanwyr Sir Gaerfyrddin yn dod â streic i ben

  • Cyhoeddwyd
TaenuFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gweithwyr sy'n graeanu ffyrdd Sir Gaerfyrddin wedi dod i gytundeb â'r cyngor er mwyn atal streic dros y dyddiau nesaf.

Roedd y gweithwyr eisoes wedi bod yn streicio ddydd Mercher, ond yn dilyn trafodaethau ni fydd hynny'n parhau nos Iau a dydd Gwener.

Roedd undeb GMB, sy'n cynrychioli 50 o staff, yn dweud bod telerau ac amodau eu haelodau yn Sir Gâr gyda'r gwaethaf o blith awdurdodau lleol.

Gan gyhoeddi'r streic fis diwethaf, dywedodd yr undeb eu bod wedi trafod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er mwyn ceisio dod i gytundeb ond nad oedden nhw wedi cael cynnig teg.

Dywedodd cyfarwyddwr amgylchedd Sir Gâr, Ruth Mullen, ddydd Iau eu bod wedi dod i gytundeb â'r staff "yn dilyn trafodaethau hir ond adeiladol".

"O ganlyniad i'r trafodaethau hyn, gallwn gadarnhau y bydd unrhyw weithredu diwydiannol wedi'i ohirio nes y bydd ymgynghoriad gyda staff, fydd yn digwydd yn gynnar ym mis Ionawr 2020," meddai.