'Uchelwydd i dyfu yng Nghymru yn sgil cynhesu byd-eang'
- Cyhoeddwyd
Mae garddwr wedi dweud y gallai cynhesu byd-eang achosi uchelwydd i dyfu yn y gwyllt yn rheolaidd yng Nghymru cyn hir.
Mae'n gyffredin mewn perllannau a choed eraill yn Lloegr, ond anaml mae'n ymddangos yn naturiol ar goed yma.
Mae Karl Showler, 84, sy'n byw yn Aberhonddu, wedi cymryd diddordeb brwd yn y planhigyn ers pan oedd yn ifanc.
Mae Mr Showler wedi ysgrifennu am uchelwydd ar gyfer y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol.
Dywedodd ei fod yn "ddirgelwch" pam nad yw uchelwydd yn tyfu'n aml yng Nghymru.
Unig ddamcaniaeth Mr Showler ydy bod uchelwydd yn tyfu'n well yn Lloegr am ei bod hi fymryn yn gynhesach yno.
"Ond os ydy cynhesu byd-eang yn gwneud Cymru'n gynhesach yna mae'n debygol iawn y bydd yn tyfu'n naturiol ar y coed maen nhw'n hoffi yng Nghymru," meddai.
"Newyddion da i'r rheini sy'n hoff o gusan adeg y Nadolig."