Aelodau seneddol yn cefnogi mesur Brexit Boris Johnson
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau seneddol wedi cefnogi cynllun Boris Johnson fyddai'n golygu bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr.
Fe wnaeth 358 bleidleisio o blaid Mesur yr UE (Cytundeb Ymadael), gyda 234 yn ei wrthwynebu.
Bydd y mesur nawr yn symud ymlaen i wynebu craffu pellach yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried a fyddan nhw'n argymell y dylai'r Cynulliad rhoi cydsyniad i'r ddeddf.
Byddai'r mesur hefyd yn atal y llywodraeth rhag ymestyn y cyfnod trawsnewid - ble mae'r DU wedi gadael yr UE ond yn dilyn nifer o'i reolau - yn bellach na 2020.
Y disgwyl oedd y byddai'r mesur yn cael ei basio heb broblem wedi i'r Ceidwadwyr ennill mwyafrif o 80 sedd yn yr etholiad cyffredinol yr wythnos ddiwethaf.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn gynharach, roedd y Prif Weinidog wedi dadlau y byddai pasio ail ddarlleniad y mesur yn galluogi i'r DU "symud ymlaen".
Roedd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi dweud wrth ASau ei blaid i bleidleisio yn erbyn y mesur, gan ddweud bod "ffordd well a thecach" o adael yr UE.
Fe wnaeth ASau hefyd gefnogi'r amserlen ar gyfer trafodaeth bellach ar y mesur dros dridiau pan fyddan nhw'n dychwelyd ar ôl y Nadolig - ar 7, 8 a 9 Ionawr.
Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod yn benderfynol y bydd y mesur yn troi'n gyfraith cyn y dyddiad mae'r DU i fod i adael yr UE, sef 31 Ionawr.
Sêl bendith Cymru?
Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried beth fydd ei argymhelliad i'r Cynulliad o safbwynt cymeradwyo'r ddeddf.
Ym mis Hydref, fe bleidleisiodd y Cynulliad i wrthwynebu cytundeb Mr Johnson, gyda'r prif weinidog Mark Drakeford yn ei ddisgrifio fel "cytundeb gwael i Gymru".
Ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y mesur newydd yn cynnwys "newidiadau y bydd rhaid i ni eu hystyried".
Dywedodd y llefarydd: "Ar ôl ystyried y newidiadau sylweddol, fe fyddwn ni wedyn yn gwneud argymhelliad i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn iddo ddychwelyd o'r egwyl."