Dim cynnydd i oed pas bws am ddim o 60 - Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Ni fydd yr oedran y daw pobl yn gymwys i gael tocynnau bws am ddim yng Nghymru yn codi o 60 i oedran pensiwn gwladol, ar ôl i Lywodraeth Cymru newid eu cynlluniau.
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi croesawu'r penderfyniad, gan ddweud y byddai wedi effeithio ar hyd at 300,000 o bobl hŷn.
Yn ôl ym mis Gorffennaf, cadarnhaodd y Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates y byddai'r cam, i'w gyflwyno'n raddol, yn cael ei gynnwys mewn deddf newydd arfaethedig.
Ar y pryd roedd gweinidogion yn poeni am gost gynyddol y tocyn, gyda disgwyl i 880,000 o bobl fod yn gymwys erbyn 2021.
Oedran pensiwn y wladwriaeth ar gyfer dynion a merched ydy 65, ond bydd yn codi i 67 erbyn 2028.
Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots ei bod "wrth ei bodd", a'i bod wedi "mynegi fy ngwrthwynebiad i'r cynigion yn gyson".
Yn ôl ymgynghoriad diweddar, mae deiliaid pas yn cynrychioli tua 47% o deithiau bws yng Nghymru ac roedd tua 730,000 o docynnau mewn cylchrediad ar ddiwedd 2018.
Mae cwmnïau bysiau yn cael eu had-dalu ar sail pris sengl i oedolion, yn ôl Papur Gwyn a gyhoeddwyd y llynedd.
Dangosodd ffigyrau o 2016 fod y gost o ddarparu teithio ar fws am ddim hyd at y pwynt hwnnw tua £840m.
'Synnwyr cyffredin'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn 2002, daeth Cymru'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno teithio am ddim ar fysiau i bobl hŷn. Mae'r polisi wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac rydym yn benderfynol o sicrhau ei fod yn parhau i sicrhau buddion yn y dyfodol.
"Byddwn yn gwneud gwaith pellach i ddatblygu dull mwy hyblyg a hirdymor tuag at gonsesiynau prisiau, gan ystyried goblygiadau ariannol ac angen teithwyr.
"O ganlyniad i'r gwaith ychwanegol hwn, ni fydd y maes polisi hwn yn cael ei gynnwys yn y ddeddfwriaeth bysiau sydd ar ddod."
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar bobl hŷn, Janet Finch-Saunders AC ei bod "wrth ei bodd bod y llywodraeth wedi gwneud penderfyniad synnwyr cyffredin ychydig cyn y Nadolig".
"Y tymor hwn, rwyf wedi herio'r Gweinidog yn bersonol ar effaith negyddol bosibl ei gynigion i symud oedran cymhwysedd o 60 i 65," meddai.
"Gallai fod wedi gweld llai o ddefnydd o fysiau, bygwth hyfywedd llwybrau, a rhedeg y risg o gynyddu unigrwydd ac arwahanrwydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2019