'Dim cynnydd i oed pas bws am ddim tan 2022' - Skates

  • Cyhoeddwyd
Bws ArrivaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Trafnidiaeth Cymru eisiau i bawb droi at bas bws electroneg fydd yn gallu cael ei ddefnyddio ledled Cymru

Bydd cynnydd i'r oed sy'n gymwys i gael pas bws am ddim yng Nghymru ddim yn digwydd tan Ebrill 2022, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae gweinidogion am gynyddu'r oed ble mae pobl yn gymwys i dderbyn pas o 60 i'r oedran pensiwn gwladol - sy'n codi o 65 i 67 erbyn 2028.

Dywedodd Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth, na fyddai unrhyw un sy'n cyrraedd 60 cyn Ebrill 2022 yn cael eu heffeithio "o dan unrhyw amgylchiadau".

Mae rhai yn bryderus am effaith posib y polisi ar y bobl fwyaf bregus.

Ond mae gweinidogion yn poeni am gost gynyddol y pas, gyda disgwyl i 880,000 fod yn gymwys erbyn 2021.

Dyma'r tro cyntaf i'r llywodraeth nodi pryd y byddai'r newidiadau yn dod i rym.

Yn ôl ymgynghoriad diweddar, mae deiliaid pas yn cynrychioli tua 47% o deithiau bws yng Nghymru.

Bydd angen cyflwyno'r newidiadau trwy ddeddfwriaeth newydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ei bod yn poeni am effaith y bwriad y llywodraeth ar rai o'r bobl hŷn mwyaf bregus

Dywedodd Mr Skates fod angen cynyddu nifer y bobl sy'n talu i ddefnyddio bysiau.

"Dyna pam rydyn ni'n edrych ar weledigaeth eang o wella atyniad teithio ar fws," meddai.

"Rydyn ni'n edrych ar systemau prisiau sydd ar hyn o bryd yn gweithredu mewn gwahanol rannau o'r byd, sy'n ddiddorol iawn yn fy marn i, er mwyn gwneud teithio ar fws yn fwy fforddiadwy i'r unigolyn."

Gwefan adnewyddu wedi gwella

Yn y cyfamser dywedodd Mr Skates wrth ACau ddydd Mawrth bod y wefan sy'n delio ag adnewyddu'r cynllun pas bws wedi'i gwella ar ôl iddi dorri ym mis Medi yn dilyn nifer fawr o geisiadau.

Mae angen i bawb sydd â phas bws adnewyddu cyn 31 Rhagfyr.

Dywedodd Mr Skates wrth ACau y bu tua 210,000 o geisiadau ar y wefan.

Dangosodd ffigyrau fod tua 730,000 o basiau mewn cylchrediad ar ddiwedd 2018.