Teyrngedau i gyn-gyfarwyddwr CPD Porthmadog, Dafydd Wyn Jones
- Cyhoeddwyd

Dafydd Wyn Jones gyda'r AS Liz Saville Roberts ar Y Traeth - cartref CPD Porthmadog
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i gyn-gyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Porthmadog, Dafydd Wyn Jones, sydd wedi marw yn 71 oed.
Bu Mr Jones - a oedd yn cael ei adnabod fel Stan - hefyd yn rhedeg siop Recordiau Cob ym Mhorthmadog.
Roedd yn dad i'r canwr Ywain Gwynedd, a wnaeth gynrychioli Porthmadog ei hun fel chwaraewr.
Mae hefyd yn gadael ei wraig, Linda a'i ferch, Tracey.
"Gyda chryn boen, derbyniwyd y newyddion am farwolaeth sydyn Dafydd Wyn Jones yn hwyr [ddydd Gwener]," meddai datganiad ar wefan y clwb.
"Roedd Dafydd yn un o gyfarwyddwyr y clwb. Brawychwyd ardal gyfan gyda'r newyddion ac estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf â Linda, Yws a'r teulu cyfan yn eu colled enfawr.
"Ysgwydwyd pawb ohonom yn y clwb gyda sydynrwydd y newyddion."
'Cyfraniad anferth'
Ychwanegodd: "Mae'n rhy fuan, ac mae pawb yn ei chael yn anodd, i brosesu'r newyddion, inni werthfawrogi'n llawn gyfraniad anferth Dafydd i glwb lle bu yn bresenoldeb mor bwysig am gyfnod mor hir.
"Bu yn hollol allweddol i'r datblygiadau mawr sydd wedi digwydd ar y Traeth dros y blynyddoedd diwethaf ac yn brwydro ar hyd yr amser i sefydlu'r clwb ar seiliau ariannol cadarn.
"Yn fwy na dim roedd yn gefnogwr, a hynny am 60 mlynedd a mwy ac roedd yn bresenoldeb rheolaidd mewn gemau'r clwb ar Y Traeth ac oddi cartref. Roedd ei lais optimistaidd bob amser yn ein cynnal a chodi ein calonnau.
"Bydd yna golled enfawr, fel swyddog o'r clwb ond yn bennaf byddwn yn ei golli fel ffrind i bawb ar Y Traeth."
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts ar Twitter: "Mae'r newyddion ein bod wedi colli Dafydd Wyn yn wirioneddol drist, ac rwyf yn trysori'r atgofion ohono: gwladgarwr, cenedlaetholwr, dyn ei fro a'i bobl.
"Pob cydymdeimlad â Linda a'r teulu ar amser anodd."