Cinio Dolig am ddim i bobl unig neu ddigartref dros Gymru

  • Cyhoeddwyd
Ashley Courbold and chef Danny BakerFfynhonnell y llun, Viridian
Disgrifiad o’r llun,

Mae myfyrwyr a grwpiau lleol wedi cynorthwyo staff bwyty Viridian ym Mangor i ddarparu bwyd

Bydd cinio Nadolig ar gael am ddim i bobl ddigartref, oedrannus neu unig diolch i fyddin o wirfoddolwyr.

Ymhlith y llefydd sy'n cynnig ewyllys da ar Ddydd Nadolig eleni mae siop tecawê, gwestai a thai bwyta o Gaerdydd i Wynedd.

Mae grwpiau cymunedol hefyd yn cynnal digwyddiadau tebyg yn Sir Benfro a Wrecsam.

Dywedodd bwyty Viridian ym Mangor eu bod wedi gwahodd teuluoedd neu bobl sengl sydd "efallai ddim yn medru fforddio cinio Nadolig traddodiadol".

Yn Sir Benfro mae disgwyl i tua 25 o bobl fwynhau cinio Nadolig am ddim diolch i 30 o wirfoddolwyr yn Neuadd Gymunedol Sant Ioan yn Noc Penfro.

Dywedodd y Parchedig Alexandra Grace ei bod "wedi synnu a'm llonni" gan nifer y bobl oedd am roi cymorth.

Mae llawer wedi rhoi anrhegion ac mae pobl hefyd wedi gwirfoddoli eu hamser i addurno'r ystafell a pharatoi'r bwyd.

"Mae ein heglwys a'n tref yn ateb y galw," meddai.

Ffynhonnell y llun, Victoria Fish Bar
Disgrifiad o’r llun,

Mae siop sglodion y Victoria Fish Bar yn darparu bwyd am ddim ar ddydd Nadolig yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd

Yn Wrecsam, bydd Byddin yr Iachawdwriaeth yn darparu cinio am ddim i 80 o bobl gyda chymorth 20 o wirfoddolwyr.

Fe fydd anrhegion Nadolig hefyd i bobl sy'n ddigartref, yn byw mewn llety dros dro neu sy'n byw ar eu pennau eu hunain.

Mae'r sefydliad hefyd wedi dosbarthu dros 500 o anrhegion i blant lleol.

Ym Mangor, mae gwirfoddolwyr wedi helpu staff i ddarparu bwyd, anrhegion ac adloniant yn y bwyty figan, Viridian.

Fe wnaeth myfyrwyr Prifysgol Bangor gefnogi drwy gyfrannu tua 160 bocs o "bethau da" i gael eu dosbarthu i bobl anghenus.

Yn ôl y cogydd, Danny Baker, doedd o ddim yn gwybod faint o bobl i ddisgwyl, ond fod banciau bwyd lleol a grŵp cymorth i'r digartref wedi bod yn dosbarthu taflenni.

Y cynllun yw agor y bwyty fel arfer, gydag oddeutu 50 o wirfoddolwyr yn derbyn archebion a golchi llestri.

Bydd cerddorion hefyd yn darparu adloniant yn ystod y dydd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Deborah Morgan fod Nadolig yn "gyfnod anodd" i rai pobl

Dywedodd Mohammed Nazakat, o siop sglodion y Victoria Fish Bar yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd, eu bod yn darparu prydau i bobl sydd angen cymorth.

Mae tua 400 o giniawau Nadolig eisoes wedi cael eu dosbarthu i bobl mewn angen ar draws Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd.

Fe gafodd y ciniawau eu paratoi gan staff yng Ngwesty Ifor Hael yn Nhonypandy, a'u dosbarthu gan wirfoddolwyr ar noswyl Nadolig.

Dywedodd Dr Deborah Morgan, arbenigwr unigrwydd ym Mhrifysgol Abertawe, fod y Nadolig yn "gyfnod anodd" i rai gan ei fod yn cael ei ystyried yn gyfnod ar gyfer teuluoedd a ffrindiau.

"Os ydych chi ar ben eich hunan, mae'r teimladau o unigrwydd yn cael eu chwyddo gan nad ydych chi'n ffitio'r 'norm' yna," meddai.