Y Bencampwriaeth: Brentford 3-1 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Brentford v AbertaweFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Colli oedd hanes Abertawe o 3-1 oddi cartref yn Brentford ddydd Iau.

Daeth cyfle cyntaf y gêm wedi 18 munud. Rhediad da gan Watkins fewn i'r cwrt cosbi ac fe darodd ei ergyd yn erbyn troed Connor Roberts cyn hedfan heibio'r postyn am gic gornel.

O'r gic cornel honno fe aeth y tîm cartref ar y blaen.

Peniad Pinnock ar y postyn pellaf yn ôl ar draws wyneb y gôl i gyfeiriad Bryan Mbeumo i benio i gefn y rhwyd o chwe llath.

Roedd Brentford yn edrych yn beryglus iawn o groesiadau. Pum munud wedi gôl Mbeumo roedd y tîm cartref 2-0 ar y blaen.

Llygedyn o obaith

Croesiad o'r asgell chwith gan Henry ac Ollie Watkins oedd yn y cwrt i osod y bêl yng nghornel isaf y rhwyd gyda chyffyrddiad deallus.

Daeth llygedyn o obaith i'r Elyrch wedi 65 munud.

Ergyd Celina yn cael ei harbed gan Raya yn y gôl i Brentford, ond fe ddisgynnodd y bêl wrth droed Andre Ayew i sgorio i Abertawe.

Fe ddylai Valencia fod wedi bod a sgorio trydedd Brentford wedi 86 munud ond fe darodd ei ergyd heibio'r postyn.

Munud yn ddiweddarach fe wnaeth Ollie Watkins sicrhau'r tri phwynt i'r tîm cartref gyda'i ail o'r gêm.

Llwyddodd i guro'r trap camsefyll i redeg 30 llath gyda'r bêl cyn ei gosod heibio i Woodman yn y gôl.

Daeth y gêm i ben gyda'r Elyrch yn disgyn i'r wythfed safle yn y tabl.