Gwaith cynnal a chadw i amharu ar wasanaethau trên y de

  • Cyhoeddwyd
Trân yng ngorsaf canolog Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd bysus yn cludo teithwyr tan Ddydd Calan ar deithiau rhwng Caerdydd, Bryste, Cas-gwent a Chwmbrân

Bydd yn rhaid i fwyafrif teithwyr y rheilffordd yn ne Cymru ddefnyddio gwasanaethau bws rhwng dydd Gwener a Dydd Calan tra bod gwaith cynnal a chadw'n cael ei gwblhau yn ystod gwyliau'r Nadolig.

Bydd trenau'n dechrau a gorffen eu teithiau ym Mryste, Cwmbrân, Cas-gwent a Phen-y-bont tra bod Network Rail yn adnewyddu'r trac ac yn gosod gwifrau rhwng Caerdydd a Thwnnel Hafren.

Mae'r rhaglen adnewyddu'n effeithio ar deithwyr sy'n teithio i neu o Lundain, gogledd Cymru, Manceinion, canolbarth Lloegr ac arfordir deheuol Lloegr.

Gyda bysus yn rhedeg yn lle trenau ar yr holl wasanaethau dan sylw, mae rheolwyr yn cynghori pobl i adolygu eu trefniadau teithio o flaen llaw.

Mae gorsaf Paddington yn Llundain ar gau hefyd ddydd Gwener, felly bydd pobl sy'n teithio ar drenau Great Western Railway rhwng de Cymru a Llundain ond ar y rheilffordd rhwng gorsaf Bristol Parkway a Reading, ac ar fws ar gyfer gweddill y daith.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith adnewyddu'n cynnwys gosod gwifrau uwchddaearol o gwmpas Casnewydd a Chaerdydd

Bydd trenau GWR i Lundain, Portsmouth, Taunton a Chaerwysg yn dechrau a darfod ym Mryste, gyda bysus yn lle trenau rhwng fanna a Chasnewydd, Caerdydd a Phen-y-bont.

Bydd trenau Cross Country rhwng Caerdydd a Nottingham yn dechrau a darfod yng Nghas-gwent.

Yn achos gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru, bydd yna fysus yn lle trenau rhwng Cwmbrân a Chaerdydd i'r rhai sy'n teithio i ac o'r gogledd neu Fanceinion, a rhwng Caerdydd a Glyn Ebwy.