Nigel Owens yw rhedwr dirgel Ras Nos Galan
- Cyhoeddwyd
Y dyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens fydd y 'rhedwr dirgel' yn Ras Nos Galan Aberpennar 2019.
Cafodd y ras enwog ei sefydlu yn 1958 i goffáu Guto Nyth Brân, ac ers hynny mae miloedd o bobl wedi cofrestru i redeg ynddi.
Mae Nigel Owens yn dilyn ôl troed nifer o enwogion y byd rygbi, gan gynnwys Sam Warburton, Shane Williams ac Alun Wyn Jones.
Bydd yn cludo torch Nos Galan o Eglwys St Gwynno, Llanwynno i Aberpennar nos Fawrth er mwyn lansio'r ras yn swyddogol.
Mae Nigel Owens yn dal record y byd am ddyfarnu'r nifer mwyaf o gemau prawf, ac mae hefyd yn un o eiriolwyr pennaf y gymuned LHDT.
'Pawb wrth eu boddau'
Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, aelod cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf gyda chyfrifoldeb am yr amgylchedd a hamdden, ac sydd hefyd yn gadeirydd Pwyllgor Nos Galan: "Mae Nigel Owens MBE yn un o'r personoliaethau mwyaf ym myd rygbi a chwaraeon yn gyffredinol.
"Mae parch mawr iddo ar y cae ac oddi arno oherwydd ei wybodaeth chwaraeon, ei ddull teg o ddyfarnu a'r safiad yn erbyn rhagfarn, yn enwedig o fewn y gymuned LHDT.
"Rydym yn falch o'i groesawu fel rhedwr gwadd Ras Nos Galan 2019, ac yn gwybod y bydd gwylwyr hen ac ifanc wrth eu boddau o'i weld yn y digwyddiad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2016