'Y frwydr rhwng y galon Gymreig a'r enaid Prydeinig'
- Cyhoeddwyd
Cymru? Gwir ynteu gau? Dyna'r cwestiwn mae'r cyfarwyddwr a'r dramodydd Ian Rowlands yn ei ofyn wrth iddo edrych ar berthynas y Cymry Cymraeg a di-Gymraeg yn y Gymru gyfoes.
Yma mae Ian yn ystyried sut mae'r Gymraeg wedi ailwreiddio yn y cymoedd ac yn dadlau mai'r frwydr dyngedfennol sydd o'n blaen ni yw'r frwydr rhwng y galon Gymreig a'r enaid Prydeinig.
Rhyw 500 llath yw e o dŷ fy rhieni i fyny'r mynydd tuag at y man ble'r oeddwn i arfer eistedd ar ffens a gwrando ar y Top 20 yn f'arddegau. Taith o 15 i 20 munud ar y mwyaf oedd hi i esgyn i'r fan honno pan o'n i'n 16 a Leo Sayer ar frig y siartiau.
Ond, toc cyn y Nadolig llynedd, mi gymerodd e awr a hanner i mi ymladd fy ffordd trwy'r mieri a'r rhedyn. Ac wedi'r holl stryffaglu, ro'n i dal rhyw ganllath o gyrraedd y man. Ond yn y fan honno yr o'n i'n benderfynol o recordio diweddglo'r gyfres Radio Cymru Tynged y Genedl.
Ie, nid y Gymraeg yn unig sydd wedi ailwreiddio yn y Rhondda yn y 40 mlynedd ers i mi adael y cwm; bellach mae natur wrthi'n ailfeddiannu'r hen fynyddoedd moel; ymlaen mae Canaan...
Gelyniaeth
Yn y 1960au pan gychwynes i fy addysg yn yr hen Ysgol Gymraeg Pontygwaith, roedd yna elyniaeth tuag at yr iaith yn y cwm; gan y plant di-Gymraeg, o'dd yn arfer ein galw ni'n 'Welshie b******s', a'u rhieni, am ein bod ni'n eu hatgoffau nhw o'u hetifeddiaeth goll.
Erbyn heddiw, ac er mawr syndod i mi, mae 'na dderbyniad llwyr o'r Gymraeg yng Nghwm Glo: 'I don't speak it, but my daughter does ...' neu, 'We weren't taught it in school when I was a kid, but my niece goes to Welsh school now...' Am dro ar fyd.
Bellach, yn y Porth - y pentre lle magwyd fi - mae yna ysgol gynradd Gymraeg (sydd newydd ehangu i'w hail safle), ochr draw y cwm i honno mae Ysgol Gyfun Gymraeg y Rhondda. Yna, yng nghanol y pentre, mae Canolfan Gymraeg yr Hen Lyfrgell newydd agor ac ynddi mae Menter Iaith Rhondda Cynon Taf wrthi'n ymgartrefi.
Doedd dim cyd-destun i 'Nghymreictod pan o'n i'n grwt. Heddi, mae 'na gyd-destun parod i Gymreictod y pentref a'r cwm ... wel cymoedd ... y Rhondda Fach a'r Fawr.
Ac yfory? Pwy a ŵyr? Efallai bydd y Rhondda yn fro Gymraeg unwaith yn rhagor. 'Bach o hyder sydd angen i'w siarad hi, ond mi ddaw. Mae'n achos i ddathlu, onid yw?
Ar un wedd, o bosib ei fod. Ond yr hyn a barodd y syndod mwyaf i mi, tra oeddwn i wrthi'n ricordo'r gyfres, oedd gallu pobol y Rhondda i ymddihatru'r iaith oddi wrth unrhyw gysyniad o genedl. Mae'r Gymraeg bellach yn iaith waith; am fod 'na werth ariannol iddi.
Iaith wleidyddol
O ganlyniad, mae'r hen iaith wedi'i normaleiddio yn y gymuned bragmatig honno. Ond, mae'r hen ddrwgdybiaeth ohoni fel iaith wleidyddol - sy'n gysylltiedig â gwreiddiau asgell dde Plaid Cymru - yn dal yno: 'I speak Welsh, I think we all should speak a bit like. But I'd never vote for Independence.'
Cyn cychwyn ar y gyfres, mi feddyliais i mai'r hen elyniaeth ieithyddol fyddai'n dal i lliwio'n gwleidyddiaeth ni; mai brwydr rhwng y Gymraeg a'r Saesneg oedd y frwydr dros Gymru.
Ond, yn dilyn y sgyrsie a gefais i gyda phobol y Rhondda, fe newidiais i fy meddwl. Fe ddechreuais i sylweddoli nad brwydr ieithyddol yw'r frwydr dyngedfennol bellach; am fod honno wedi ei hennill.
Y frwydr dyngedfennol sydd o'n blaen ni yw y frwydr rhwng y galon Gymreig a'r enaid Brydeinig. Fe brofodd Brexit hynny. Fe bleidleisiodd 54% o bobl y Rhondda dros adael Ewrop; dros brosiect y Blaid Doriaidd sy'n malio'r un iot am eu bywydau nhw.
Dywedodd Tom Nairn, hanesydd o'r Alban, mai dim ond wedi i Loegr ateb ei chwestiwn cenedlaetholdeb ei hunan y daw 'na drefn newydd i Brydain. Brexit yw'r Saeson wrthi'n sortio eu hunain allan. Ac wi'n mawr obeithio y gwnawn nhw.
Yn y cyfamser, ac o ganlyniad, o bosib, y daw 'na gyfle i ni ... os allwn ni gyd-ddyheu. Ry'n ni'n genedl mor unedig ar y meysydd chwarae, on'd dy'n ni? 'Gwlad! Gwlad! Pleidiol wyf ...' ond wedi i'r chwiban ola' ganu? A thannoeth y gêm ...?
Rhyngthoch chi a fi, wy'n poeni am y genedl hon. Mae gen i blant, sa i moyn iddyn nhw orfod sgwennu erthyglau fel hon yn 2070. Os bydd 'na Gymru o gwbl erbyn hynny.
Bröydd newydd
Nawr, wy'n meddwl bod y Gymraeg yma i aros, nid yn unig yn y Rhondda ond o'r Fron i'r Fenni ac o Ffynnon Well na Buwch i Fryn Saith Marchog; diolch yn rhannol i Saunders a'i araith syfrdanol, 'Tynged yr Iaith' a draethodd yn 1962.
Ond 2020 yw hi bellach. Efallai bod y fro yn lleihau ond mae'r iaith yn fyw ac mi wnaiff hi sefydlu bröydd o'r newydd; Porth yw Porthmadog fory; Grangetown yw'r Castellnewy' newy'. Ac i chi sy'n credu mai 'Cymru yw ei hiaith a'r iaith yw Cymru,' llongyfarchiadau, mae'ch brwydr chi ar ben.
Ein hanes
Ond i mi, mae Cymru yn fwy na'i hiaith hi. Fel ddywedodd un fenyw drawiadol ei thatŵs ar sgwâr Tonypandy, pan ofynnais iddi, 'What is Wales to you?' 'Iss our Hisstory, mun.'
Wel, beth yw'n hanes ni? Hanes balch ond taeog. Ai dyna ydyn ni'n ei ddymuno ar gyfer ein dyfodol ni? Tase nhw ond yn dysgu hanes y wlad hon i blant di-Gymraeg, mi fase'n help tuag at greu undod o fewn y genedl ranedig hon. Mae'n hanes ni a'r iaith yn perthyn iddyn nhw hefyd.
Trwy fod yn gynhwysfawr y gwnawn ni gipio dychymyg y Cymry Prydeinig fel y gwnaeth gwladgarwyr yr Alban gipio dychymyg eu cenedl hwythau. Cysyniad yw Cymru ar hyn o bryd, gadewch i ni ei wireddu.
'Trwy ddulliau chwyldro yn unig mae llwyddo,' meddai Saunders, ac mi oedd e'n llygaid ei le. Heb unrhyw atebolrwydd gwleidyddol, yr iaith oedd ein hunig gobaith ni ar y pryd. Ond erbyn heddiw, mae ganddo ni fecanwaith gwleidyddol, y tu hwnt i obeithion Saunders yn ei ddydd o bosib.
Cysyniad o genedl
Proses yw Datganoli ac mae'r broses ar waith. Ac eto, wedi 20 mlynedd o broses, prin fod y cysyniad o genedl wedi cydio. Prin fod y Cymry - Cymraeg a'r Cymry di-Gymraeg - yn cyd-ddyheu am fod ein ffocysau gwleidyddol yn ddeublyg.
Mae angen chwyldro arnom ni o hyd, gyfeillion. Un syniadaethol y tro hwn; chwyldro yn y galon Gymraeg a'r pen Cymreig, ill ddau. Achos, mewn undod y mae nerth, a hynny y tu hwnt i'r 6 Nations a'r European Cup!
Dim ond trwy undod Cymry, o ba bynnag tras, iaith a chred, y gwnawn ni, yn genedl unfryd, ei chodi hi. A dyna, wy'n mawr obeithio, gyfeillion, yw ein tynged ni.
Gwrandewch ar raglen gyntaf y gyfres ar Radio Cymru, Tynged y Genedl
Hefyd o ddiddordeb: