Dysgwyr o'r tu allan i Gymru: 'Mae'r drws wedi agor i fi'
- Cyhoeddwyd
Mae Matt Spry, sy'n wreiddiol o Loegr ond bellach yn byw yng Nghymru, wedi recordio sgwrs gyda chriw o ddysgwyr Cymraeg sydd wedi symud i Gymru o wahanol rannau o'r byd, ar bodlediad arbennig, fel rhan o Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg BBC Radio Cymru.
Yma maen nhw'n rhannu eu profiadau o ddysgu'r iaith a'u rhesymau dros siarad Cymraeg:
Daw Joseph o'r Traeth Ifori, gorllewin Affrica. Symudodd i Gymru ym mis Chwefror 2018 fel ceisiwr lloches. Ers hynny, mae wedi bod yn dysgu'r iaith:
Pan symudais i Gymru, penderfynais yn syth i ddysgu Cymraeg.
Clywais i y Gymraeg, sef iaith y wlad, a meddyliais i, 'wel, falle dwi'n mynd i aros yng Nghymru, falle byw yma', felly penderfynais i ddechre dysgu Cymraeg.
Yn fy marn i, os ydw i'n byw yng Nghymru mae'n normal i ddysgu'r iaith.
Cymraeg yw fy wythfed iaith - dwi'n siarad Ffrangeg, Arabeg, Rwsieg, Almaeneg, Eidaleg, Swahili a Saesneg hefyd.
Mae fy mhrofiad gyda'r gymuned Gymraeg yn wych, mae pobl yn rhoi croeso cynnes, maen nhw'n hapus iawn pan maen nhw'n gweld rhywun o dramor sy'n siarad Cymraeg a maen nhw'n helpu. Dim ond profiadau da dwi wedi eu cael.
Dwi wedi cael cyfle i wirfoddoli a gweithio i Cymdeithas yr Iaith ac i ymweld â llefydd yng Nghymru - yng ngogledd Cymru, a Cei Newydd, Aberystwyth, Llangrannog, [maen nhw yn] llefydd hyfryd iawn. Mae Cymru yn hyfryd iawn.
Mae Magda yn dod o wlad Pwyl yn wreiddiol. Symudodd i Gymru 14 mlynedd yn ôl i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, a phenderfynu aros:
Dwi wedi penderfynu dysgu Cymraeg ar ôl sawl blwyddyn o gyrraedd yma. Dwi wedi cwrdd â fy nghŵr a mae sawl aelod o'i deulu yn siarad Cymraeg, felly dwi wedi clywed llawer o Gymraeg yn cael ei siarad, felly roedd yn naturiol i fi ddysgu Cymraeg.
Mae'r gymuned Gymraeg wedi fy nghroesawu. Ar y dechrau roeddwn wedi mynd i ddosbarth a doedd dim cyfle gyda fi i siarad achos doedd neb yn y cartref yn siarad Cymraeg, a gyda teulu fy ngŵr, roedden ni yn siarad Saesneg achos doedd dim pawb yn siarad Cymraeg. Ac efallai doedd dim digon o hyder gyda fi i siarad Cymraeg gyda nhw.
Pan o'n i ar lefel sylfaen, roedd y brifysgol wedi cysylltu fi gyda mentor, sef Mair, a dyma oedd y tro cyntaf i fi siarad Cymraeg tu fas i'r dosbarth. Roedd yn anodd iawn yn y dechre ond yn ardderchog. Rydyn ni'n siarad dim ond Cymraeg.
Fe ddes i ar draws diwylliant Cymraeg gyntaf yng ngwlad Pwyl yn y 90au, fe wnes i weld y ffilm Hedd Wyn, a meddwl, 'pa iaith'? Roedd yn ardderchog, a hoffwn i weld y ffilm unwaith eto.
Mae Val yn dod o Lundain yn wreiddiol, a bu'n byw yn Brighton cyn iddi hi a'i gŵr symud i Gaerdydd ym mis Ionawr eleni, i fod yn nes at eu merch a'i theulu sydd wedi ymgartrefu yn y brifddinas:
O'n i'n byw yn Brighton, ac oedd fy merch yn byw yng Nghaerdydd ac yn disgwyl babi, ac un diwrnod oedd y ddwy ohonon ni yn siarad a dywedon ni, 'bydd y babi yn Gymraes, efallai rhaid i ni ddysgu Cymraeg nawr achos un diwrnod bydd y babi yn siarad Cymraeg'.
Fe aethon ni ar Google, a ffeindio Say Something in Welsh a meddwl, 'beth am i ni drio'? Doedden ni ddim yn hyderus bydden ni'n parhau, oedden ni jyst yn meddwl 'pam lai'? Ac wedyn oedd y ddwy ohonon ni yn mwynhau dysgu cymaint, mae wedi dod yn rhywbeth mawr yn ein bywyd.
Nawr rydw i'n gallu siarad gyda'r babi, sy'n bum mlwydd oed, a mae'n hyfryd.
Am bedwar blwyddyn roeddwn i'n dysgu Cymraeg yn Brighton, ar-lein, wedyn ffeindies i grŵp hyfryd o ddysgwyr yn Brighton. Mae 'na grŵp ohonon ni yn cyfarfod yn y dafarn bob wythnos. Mae'n wych!
Mae [dysgu Cymraeg] wedi bod yn gymaint o hwyl dwi wedi 'neud lot o bethau sy'n hollol wahanol. Dwi wedi bod i'r Eisteddfod sawl gwaith, mae hynny yn hollol arbennig, clywed y Gymraeg o dy gwmpas di, a pawb yn hapus i siarad Cymraeg gyda ti wrth brynu paned o de.
Mae gymaint o gyfleoedd fel yna, yn 'neud bywyd yn fwy diddorol ac yn arbennig.
Mae Mathias yn dod o'r Almaen yn wreiddiol, ond fe gwrddodd â'i gariad, sydd bellach yn wraig iddo, a'i dilyn hi yn ôl i Gymru, 17 mlynedd yn ôl:
Wnes i drio dysgu Cymraeg dwy waith, y tro cyntaf cyn i fi droi yn athro gynradd achos o'n i'n gwybod mae angen dysgu Cymraeg i'r plant yn yr ysgolion Saesneg hefyd,so es i brifysgol Caerdydd a dysgais i am flwyddyn ac roedd hynny yn wych.
Ond ar ôl i fi droi yn athro oedd dim amser gyda fi, felly roedd rhaid i fi stopio. Oedd digon o Gymraeg 'da fi i ddysgu Cymraeg yn yr ysgol gynradd.
Wedyn roedd fy mhlant yn mynd i ysgol Gymraeg a roedd fy ngwraig yn dysgu Cymraeg gyda Say Something in Welsh, a mae hi'n rhugl iawn, ac oedd hi yn dechrau siarad Cymraeg gyda'r plant a doeddwn i ddim yn deall!
Roeddwn i eisiau dysgu, a llynedd daeth cyfle enfawr, gyda chynllun sabothol Cymraeg mewn Blwyddyn. Mae ar gyfer athrawon yn yr ysgolion Saesneg, sy' angen dysgu Cymraeg i'r plant. Fe ges i le ar y cwrs ac fe es i Brifysgol Caerdydd am flwyddyn a mae wedi bod yn anhygoel. Dwi'n mwynhau rhannu beth dwi wedi dysgu ar y cwrs.
Rydyn ni wedi bod yn mynd i'r Eisteddfod am flynyddoedd nawr, dwi'n cofio Ynys Môn yn y glaw! Roedd yno llawer oedd am siarad Cymraeg gyda fi, ond do'n i ddim yn gallu ymateb. Ond aethon ni i'r Eisteddfod Genedlaethol yn yr haf a roeddwn i'n gallu siarad â pawb.
Dwi'n teimlo bod y drws wedi agor i fi, mae'r wlad gyfan ar agor i fi nawr.
Daeth Matt Spry i Gymru yn y 1990au i'r brifysgol, ond pan symudodd yn ôl yma yn 2013, penderfynodd ddysgu Cymraeg:
Es i Brifysgol Caerdydd ond wnes i mo'r ymdrech ar y pryd i ddysgu Cymraeg. Symudais i nôl i Loegr ond o'n i'n gwybod y byddwn i'n symud yn ôl rhyw ddydd. Felly arbedais lot o arian, rhoi'r gorau i fy swydd, codi pac a symud i Gymru!
Dwi'n cofio ar y dechre doedd dim lot o hyder gyda fi, roedd lot o ffrindiau da gyda fi oedd yn siarad Cymraeg felly o'n i'n gallu ymarfer gyda nhw cyn mynd allan i'r gymuned ehangach a gwneud llawer o gamgymeriadau! Roedd hynna yn datblygu fy hyder.
Mae'r gymuned Gymraeg wedi bod yn groesawgar iawn ac yn hapus pan ti'n 'neud ymdrech i ddysgu eu iaith nhw.
Dwi'n dwli ar gerddoriaeth Gymraeg a darllen nofelau Cymraeg. Mae dysgu Cymraeg wedi agor drws i gerddoriaeth a nofelau newydd i fi.
Mae dysgu Cymraeg wedi rhoi gymaint i fi - dwi eisiau rhoi rhywbeth yn ôl, jyst i ddweud diolch yn fawr am y croeso cynnes, am y diwylliant a phopeth.
Hefyd o ddiddordeb: