Beirniadu methiant i wella diogelwch ar yr A40 yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
A40
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 338 o wrthdrawiadau ar yr A40 rhwng Caerfyrddin a Sanclêr o haf 2009 nes haf 2019

Mae pobl sy'n byw ger un o'r ffyrdd mwyaf peryglus yng Nghymru yn dweud nad yw'r llywodraeth yn gwneud digon i wella diogelwch arni.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod dros 300 o wrthdrawiadau wedi digwydd ar ran wyth milltir o'r A40 yn Sir Gâr dros y degawd diwethaf.

Mae newid trefn y cyffyrdd ar hyd y ffordd a gostwng y terfyn cyflymder i 50mya ymysg y newidiadau sy'n cael eu hawgrymu i leihau digwyddiadau o'r fath.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi lansio astudiaeth o'r ffordd gyda'r nod o wella diogelwch.

19 digwyddiad difrifol

Mae'r ffordd rhwng Caerfyrddin a Sanclêr yn un brysur - dyma'r prif lwybr trwy'r gorllewin i'r rheiny sy'n teithio i Sir Benfro neu lorïau ar eu ffordd i borthladdoedd Abergwaun neu Ddoc Penfro.

Ond mae hi hefyd yn ardal wledig, gyda nifer o ffermydd ar hyd y ffordd a llawer o gyffyrdd sy'n croesi'r ffordd.

Mae ffigyrau Heddlu Dyfed-Powys yn dangos bod 338 o wrthdrawiadau wedi bod ar y rhan yma o'r A40 rhwng haf 2009 a haf 2019.

Cafodd 19 o'r rheiny eu rhoi yn y categori difrifol a bu dwy farwolaeth - gyda merch bedair oed wedi marw yn yr achos diweddaraf ym mis Hydref 2018.

Mae ymgyrchwyr sy'n byw ger yr A40 yn dweud ei bod hi'n hen bryd gweithredu er mwyn gwella diogelwch ar y ffordd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cerbydau amaethyddol yn aml yn gorfod defnyddio cyffyrdd i groesi'r ffordd

Dywedodd Graham Edwards, sy'n gynghorydd ar Gyngor Tref Sanclêr, bod y ffordd wedi mynd yn llawer fwy peryglus dros y 30 mlynedd mae wedi byw yn yr ardal.

"Mae gennych chi nifer o gyffyrdd sy'n eich gorfodi chi i groesi'r ffordd ac mae llawer o gerbydau amaethyddol yn eu defnyddio nhw," meddai.

"Mae hi'n cael ei defnyddio fel traffordd, ond mae hi wedi ei chynllunio fel ffordd wledig.

"Rydyn ni'n mynd i weld mwy o ddamweiniau a mwy o farwolaethau yn y dyfodol - mae'n mynd yn waeth ac mae'r niferoedd wedi cynyddu dros y 10 mlynedd diwethaf.

"Os does 'na ddim byd yn cael ei wneud am y peth, bydd y sefyllfa'n gwaethygu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Graham Edwards yn gallu gweld yr A40 o'i gartref ym Mancyfelin

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cymryd diogelwch ar y ffyrdd o ddifrif.

Ychwanegodd ei bod wedi lansio astudiaeth o'r rhan o'r A40 rhwng Caerfyrddin a Sanclêr gyda'r nod o wella diogelwch arni.

Mae disgwyl i ran gyntaf yr astudiaeth gael ei gwblhau yn y gwanwyn eleni.