Plentyn, 4, wedi marw mewn gwrthdrawiad ger Caerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
Yr A40 wedi'r gwrthdrawiadFfynhonnell y llun, Sion Rhidian

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i blentyn pedair oed farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr.

Bu farw'r plentyn yn y gwrthdrawiad rhwng dau gar ar yr A40 yn Llanllwch ger Caerfyrddin am tua 20:00 nos Sadwrn.

Fe wnaeth car Nissan Micra glas a Skoda Fabia du wrthdaro gan achosi i'r ffordd fod ynghau am dros saith awr.

Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un welodd y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw yng Nghaerfyrddin drwy ffonio 101.

Disgrifiad o’r llun,

Mae blodau a thegan wedi eu gadael ger safle'r gwrthrawiad

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans: "Fe gawsom ein galw am oddeutu 20:00 ddydd Sadwrn i wrthdrawiad ar ffordd yr A40 ger Caerfyrddin.

"Fe wnaethom ymateb gyda phum ambiwlans a dau gerbyd cyflym, a dau gar doctor arferol.

"Roedd pedwar claf. Fe gafodd dau eu cludo i Ysbyty Glangwili ac un arall i Ysbyty Treforys, Abertawe.

"Fe gafodd claf arall ei drin ar safle'r digwyddiad," meddai.