Rhybudd melyn wrth i wyntoedd hyd at 70mya daro'r gogledd
- Cyhoeddwyd
Gallai gwyntoedd o hyd at 70mya daro rhannau o Gymru dros nos i mewn i ddydd Sadwrn.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion o 03:00 tan 18:00 ddydd Sadwrn.
Cafodd trigolion Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn rybudd i ddisgwyl gwyntoedd sy'n hyrddio ar gyflymder o 50-60mya, ond fe fydd hynny'n waeth ar dir uchel.
Gallai'r gwyntoedd amharu ar deithwyr yn yr ardaloedd dan sylw.
Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd yn rhybuddio am "risg isel" o ddifrod i adeiladau, ac mae pobl sy'n byw ger yr arfordir wedi cael rhybudd i fod yn ymwybodol o donnau uchel.
Mae oedi'n debygol i wasanaethau trenau a bysys, ac mae disgwyl cyfyngiadau ar gyflymder i gerbydau uchel ar bontydd y rhanbarth.
Gallai cyflenwadau trydan a gwasanaethau eraill hefyd gael eu torri am gyfnodau.