2021
- Cyhoeddwyd
Mae'n un o nodweddion rhyfedd ein gwleidyddiaeth ni bod etholiadau mewnol y pleidiau'n tueddu para llawer yn hwy nac etholiadau go iawn. Mae'n cymryd rhyw chwe wythnos gan amlaf i ddewis Senedd neu Gynulliad newydd, mae dewis arweinydd newydd i blaid ar y llaw arall yn gallu bod fel disgwyl i eliffant esgor.
Mae'r ras eisoes wedi cychwyn a'r ceffylau'n carlamu i gyfeiriad y ffens gyntaf ond fe fydd yn rhaid aros tan fis Ebrill i wybod pwy fydd y cyntaf i groesi'r llinell derfyn.
Ar ôl chwalfa etholiadol fel un 2019 mae modd dadlau ei bod hi'n ddigon teg i Lafur gymryd peth amser i lyfu clwyfau a phendroni ynghylch y ffordd ymlaen. Wedi'r cyfan mae 'na hyd at bum mlynedd tan yr etholiad cyffredinol nesaf.
Ond arhoswch am eiliad! Y flwyddyn nesaf mae gennym yr agosaf sydd gan Brydain at etholiadau canol tymor yr Unol Daleithiau gyda nid yn unig seneddau Cymru a'r Alban yn cael eu hethol ond llwyth o feiri a chynghorwyr yn Lloegr hefyd.
Os ydy Llafur am osgoi crasfa arall mae angen dechrau ar y gwaith o adfer delwedd y blaid yn weddol o handi gyda'r canfyddiad o'r blaid ar lefel Brydeinig yn sicr o chwarae ei rhan yn y gornestau cenedlaethol a lleol.
Wrth edrych ymlaen at 2021 gallwn gymryd, fi'n meddwl, y bydd Ukip a Phlaid Bregsit wedi diflannu o'r llwyfan er ei bod hi'n ddigon posib y gallai plaid arall ar y dde, Abolish the Assembly, er enghraifft, etifeddu peth o'u cefnogaeth.
Mae'n anodd gweld y Democratiaid Rhyddfrydol yn gwneud llawer o farc. Gydag etholiadau lleol 2022 y daw eu cyfle gorau nhw i adfer rhywfaint o'u dylanwad.
Mae'n debyg o fod yn ras tri cheffyl felly rhwng Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru a, fel ymhob etholiad cynulliad hyd yma, gallu Llafur i ddal ei gafael ar seddi etholaeth fydd yn allweddol. Os ydy'r rheiny yn dechrau syrthio fe fyddai'r ddwy wrthblaid ar eu hennill gyda'r naill yn cipio'r etholaeth ei hun a'r llall yn cael ei digolledi ar y rhestr.
Mae'n gynnar iawn i ddechrau proffwydo'r canlyniad ond mae'n ddigon hawdd dychmygu sefyllfa lle mae'r tair plaid yn ennill oddeutu ugain o seddi'r un.
Fe fydd ffurfio llywodraeth mewn amgylchiadau felly yn ddiddorol a dweud y lleiaf!