Fandaliaid yn targedu canolfan bywyd gwyllt yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Dywed gwirfoddolwyr a staff canolfan bywyd gwyllt yng Nghilgerran, Sir Benfro, eu bod wedi eu digalonni yn dilyn difrod dibwrpas i gerflun anferth o fochyn daear.
Cafodd y difrod ei ddarganfod ar Ddydd Calan - y diweddaraf mewn cyfres o ymosodiadau ar safle Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru, gan gynnwys un achos o gynnau tân yn fwriadol.
Fe wnaeth y tân hwnnw ddinistrio arsyllfa adar.
Dywed Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru fod y difrod cyson yn golygu fod llai o arian ar gael ar gyfer gwaith cadwraeth bywyd gwyllt.
"Mae'n rhwystredig ar ôl gweithio drwy'r flwyddyn a dod yma a gweld hyn," meddai Keith Thomas, Cadeirydd y gwirfoddolwyr.
"Does yna ddim rheswm i'r peth. Mae pobl yn ypset iawn."
Mae 'Helyg', y cerflun o'r mochyn daear, wedi bod yn y ganolfan ers pum mlynedd.
Dywedodd rheolwr y ganolfan, Mark Hodgson: "Mae'n drist iawn - mae tu hwnt i reswm pam fod hyn yn parhau i ddigwydd.
"Mae'n peryglu gwaith cadwraethol.
"Mae'n rhaid i ni wario arian ar atgyweirio, ac mae hynny yn cael effaith uniongyrchol ar y gwaith cadwraethol rydym yn gallu ei wneud yng Nghymru."
Dywedodd yr ymddiriedolaeth y byddan nhw'n ehangu eu rhwydwaith o gamerâu cylch cyfyng yn y ganolfan.
Maen nhw hefyd yn dweud fod yr heddlu wedi cynyddu eu presenoldeb yn yr ardal.