James Hook i ymddeol o rygbi ar ddiwedd y tymor

  • Cyhoeddwyd
James HookFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hook wedi cynrychioli Castell-Nedd, y Gweilch, Perpignan a Chaerloyw yn ystod ei yrfa

Mae cyn-faswr Cymru, James Hook, wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o rygbi ar ddiwedd y tymor.

Chwaraeodd Hook, 34, dros Gymru ar 81 achlysur ac fe aeth ar daith y Llewod i Dde Affrica yn 2009.

Dywedodd ei fod am flaenoriaethu "gallu chwarae yn yr ardd" gyda'i blant dros ymestyn ei yrfa a risgio anaf.

Mae Hook, sy'n chwarae dros y Gweilch, hefyd yn gobeithio dod yn awdur llyfrau i blant.

'Mwy i fywyd na rygbi'

Ar ôl gweld drosto'i hun y difrod corfforol mae'r gamp wedi'i wneud i'w ffrindiau, mae'n dweud ei fod yn hapus i allu gadael y gêm ar ei delerau ei hun.

"Mae llawer o fy ffrindiau agos yn y Gweilch wedi ymddeol ac wedi gorfod ymddeol yn gynnar hefyd oherwydd anafiadau," meddai Hook.

"Mae natur y gêm nawr yn gorfforol iawn - mae'n cymryd tri neu bedwar diwrnod i chi ddod dros y lympiau a'r cleisiau.

"Mae gen i dri bachgen ifanc, a gwraig hefyd, ac rydw i eisiau gallu mynd i'r ardd a chwarae a chicio pêl gyda nhw.

"Rwy'n ystyried fy hun yn un o'r rhai lwcus. Mae mwy i fywyd na rygbi."

Mae Hook eisoes wedi cyhoeddi ar Twitter, dolen allanol ei fod yn bwriadu cyhoeddi cyfres o lyfrau i blant sy'n ymwneud â rygbi yn 2020.