Merch, 17, 'wedi'i threisio gan chwaraewyr rygbi o Gymru yn 1978'
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio ar ôl i ferch gael ei threisio gan griw o chwaraewyr rygbi o Gymru dros 40 mlynedd yn ôl.
Roedd y ddioddefwraig - Jane (ddim ei henw iawn) - yn 17 oed pan ddigwyddodd yr ymosodiad mewn gwesty yn Plymouth yn 1978.
Dywed Heddlu Dyfnaint a Chernyw eu bod yn credu fod y dynion yn rhan o glwb rygbi o dde Cymru oedd ar daith.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar ddydd Sadwrn yn niwedd Ionawr neu ddechrau Chwefror yn y Strathmore Hotel ar Elliot Street, sydd bellach wedi cau.
Roedd Jane a'i ffrind wedi bod allan yn y Safari Club - y Notte Inn erbyn hyn - ble gyfarfu'r ddwy â dyn, a gredir i fod yn ei ugeiniau.
Fe ddywedodd ei fod yn athro mathemateg a'i fod yn rhan o dîm chwaraeon oedd ar daith o dde Cymru.
Fe aeth Jane i ystafell y dyn yn y Strathmore Hotel, ble cafodd y cwpl ryw.
Tua awr wedyn, fe wnaeth criw o ddynion "meddw a chreulon", a gredir i fod yn ffrindiau gyda'r athro, orfodi eu hunain i'r ystafell wely a threisio Jane sawl gwaith.
Cafodd y dynion yn eu hugeiniau eu disgrifio fel rhai gwyn, gyda'u hwynebau wedi'u siafio.
Wedi hynny, yn gynnar gyda'r nos, aeth yr athro a dyn arall i westy Duke of Cornwall i weld Jane a'i ffrind.
Mae'r heddlu'n ceisio dod o hyd i'r ddau ddyn hyn fel tystion hanfodol. Mae Jane wedi helpu i greu delweddau e-ffit ohonyn nhw.
'Gwneud y peth iawn'
Roedd y ddau ddyn yma yn yr ystafell wely yn y gwesty pan ddigwyddodd yr ymosodiad, ond wnaethon nhw ddim cymryd rhan.
Mewn ple uniongyrchol i'r dynion hynny, dywedodd Jane: "Rwy'n gobeithio eu bod yn cydnabod bod gwir angen iddyn nhw ddod ymlaen.
"Roeddwn yn teimlo ar y pryd nad oedden nhw eisiau i'r hyn a ddigwyddodd i mi fod wedi digwydd ac rwy'n teimlo y gallen nhw wneud yn iawn am hynny trwy ddod ymlaen a dweud wrth yr heddlu pwy oedd y bobl oedd gyda nhw ar y diwrnod hwnnw a phwy oedd y dynion a dreisiodd fi.
"Mae teyrngarwch yn newid dros y blynyddoedd hynny ac felly dyna fyddai'r peth iawn i'w wneud, i ddod ymlaen nawr.
"Efallai eich bod wedi cael merched, efallai bod gennych wyresau, rydych chi'n gwybod beth ddigwyddodd i mi ac rydych chi'n gwybod eich bod chi'n dal yr allwedd i adnabod y bobl hynny wnaeth fy nhreisio."
Fe ddywedodd Jane wrth Heddlu Dyfnaint a Chernyw am yr ymosodiad am y tro cyntaf ym 1993 ond ni arweiniodd hynny at arestio na chyhuddo unrhyw un.
Yn 2014, adroddodd ei threisio eto a lansiwyd ymchwiliad newydd.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Jo Hall, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Rwy'n credu mai'r dynion hyn yw'r allwedd i adnabod yr unigolion a gyflawnodd yr ymosodiad erchyll hwn gan ei bod yn amlwg bod y grŵp o ddynion yn adnabod ei gilydd.
"Rhaid i ni gofio bod y delweddau hyn yn seiliedig ar y dynion ym 1978, dros 40 mlynedd yn ôl, felly byddan nhw wedi newid yn sylweddol yn yr amser hwnnw ac yn debygol o fod yn eu 60au nawr."
Fel rhan o'r ymchwiliad, mae ditectifs hefyd yn apelio am gymorth unrhyw un a oedd yn gweithio neu'n aros yn y gwesty ar y pryd.