Mesurau llymder yn golygu 'ffyrdd gwahanol o blismona'

  • Cyhoeddwyd
Heddlu BachFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Heddlu Gwent yw y bydd cynllun Heddlu bach yn ffordd o ymgysylltu gyda chenhedlaeth ifanc

Mae Prif Gwnstabl Heddlu Gwent wedi dweud fod mesurau llymder yn golygu fod yn rhaid i luoedd yr heddlu feddwl am ffyrdd gwahanol i blismona eu cymunedau.

Dywed Pam Kelly mai'r flaenoriaeth gyson fydd i ymateb i drosedd ond mae hi'n credu fod magu perthynas gref gyda phlant a phobl ifanc yn gallu arwain at ostyngiad mewn trosedd.

Ychwanegodd fod angen amser ag ymdrech i atal trosedd gan fod y gost o ymateb iddo a delio gyda throseddwyr yn rhy uchel.

Mae llywodraeth Prydain wedi cael ei ofyn am sylwad.

Tyngu llw

Roedd hi'n siarad ym Mosg Berea yn Y Blaenau, yng Ngwent, lle'r oedd 10 o blant yn tyngu llw i fod yn aelodau newydd llu'r Heddlu Bach.

Mae bron i 1000 o blant o 49 ysgol gynradd yn cymryd rhan yn y cynllun gafodd ei gyflwyno yn y sir ddwy flynedd yn ôl.

Mae'r plant yn gwisgo lifrau ac yn gweithio gyda'r heddlu ar faterion yn ymwneud â diogelwch y ffyrdd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Prif Gwnstabl Pam Kelly yn siarad ym Mosg Berea yn Y Blaenau

Y plant ym Mosg Berea yw'r rhai cyntaf yng Nghymru i fod yn gysylltiedig â mosg yn hytrach nag ysgol fel rhan o'r cynllun Heddlu Bach.

Magu perthynas

Mae Ms Kelly, sydd wedi bod yn ei swydd ers pum mis, yn dweud fod y llu yn buddsoddi amser yn y cynllun mewn ymdrech i fagu perthynas gref gyda phlant a phobl ifanc yr ardal.

"Ni allwn barhau i ymateb i drosedd a dim ond delio gyda throseddwyr," meddai.

"Beth rydym angen ei wneud ydi ceisio atal y troseddu yna rhag digwydd yn y dyfodol ac os ddawn ni i adnabod y bobl ifanc yn ein cymunedau, os ydym yn deall rhai o'r materion maen nhw'n ei wynebu yna mae'n golygu y gallwn weithio gyda nhw i atal pobl ifanc rhag bod yn rhan o droseddu - dyna holl bwynt Heddlu Bach - adeiladu at y dyfodol, gan geisio atal troseddu yn y dyfodol gan sicrhau fod pobl ifanc yn teimlo'n ddiogel yn eu cymunedau."

Mae cynllun Heddlu Bach yn un o nifer o gynlluniau Heddlu Gwent i ymgysylltu gyda phlant a phobl ifanc yr ardal.

Ymgyrch Encompass

Y llynedd fe lansiodd y llu Ymgyrch Encompass. Am y tro cyntaf mae ysgolion yn ardal Gwent yn cael gwybod o fewn oriau os yw disgybl wedi bod yn llygad dyst i drais yn y cartref, gan alluogi staff yr ysgol i gynnig cefnogaeth a chwnsela i blant, a chynnwys asiantaethau perthnasol a gwasanaethau cymdeithasol os oes angen.

Mae Heddlu Gwent hefyd yn darparu hyfforddiant i staff a swyddogion er mwyn iddyn nhw adnabod Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod a'r effaith y gall hyn gael ar blant ag oedolion.

Gall hyn gynnwys gweld camddefnydd o gyffuriau, trais yn y cartref, gweld rhiant yn mynd i garchar neu'n dioddef salwch meddwl.

Dywedodd Prif Gwnstabl Kelly: "Fe all plant os ydyn nhw yn yr ysgol ddioddef bwlio, neu gael amser caled adref, neu amser caled yn eu cymunedau. Beth sy'n bwysig iawn yw fod oedolion yno y maen nhw'n gwybod eu bod yn poeni amdanyn nhw ac ar gael iddyn nhw - ac fe allen nhw fod mewn grwpiau ieuenctid, grwpiau ffydd ac wrth gwrs mewn grwpiau ble mae plismona'n digwydd.

"I mi, os allwn sicrhau fod y plentyn yn gwybod fod y gymuned ar eu hochr yna fe fyddwn yn adeiladu oedolion gwydn fydd yn gwybod ble i ofyn am gymorth yn y dyfodol ac rwy'n mawr obeithio y bydd hyn yn cael effaith ar ddiogelwch cymunedol a gostwng trosedd."