Cynllun pum mlynedd i groesawu'r byd heb amharu ar y fro
- Cyhoeddwyd
Bydd y strategaeth ddiweddaraf i dyfu'r diwydiant twristiaeth yn "hoelio sylw ar gryfderau Cymru - ei thirluniau, ei diwylliant a'i lleoedd", yn ôl Llywodraeth Cymru.
Bydd dwy gronfa newydd, gwerth cyfanswm o £60m, yn cefnogi nodau'r cynllun pum mlynedd "i fynd i'r afael â rhai o'r prif heriau sy'n wynebu'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, gan gynnwys y natur dymhorol a Brexit".
Wrth i'r weledigaeth newydd gael ei lansio ym Mhorthcawl, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bod sector twristiaeth Cymru "wedi trawsnewid" dros y degawd diwethaf "ond mae lle o hyd am dwf pellach yn ein heconomi ymwelwyr ac rydym am gefnogi hynny".
Ychwanegodd bod dau brif syniad cynllun Croeso i Gymru - sef 'Bro' a 'Byd' - yn gobeithio "taro'r cydbwysedd cywir rhwng twf economaidd a'n llesiant ehangach fel gwlad".
"Y nod yw datblygu profiadau o ansawdd uchel y gellir eu mwynhau drwy gydol y flwyddyn sy'n dda i ymwelwyr a'r cymunedau sy'n eu croesawu," meddai Mr Drakeford.
"Mae'r diwydiant yn wynebu heriau, gan gynnwys Brexit. Credwn mai'r ymateb gorau i Brexit yw parhau gyda'n busnes craidd - cydnabod potensial parhaus twristiaeth i weithredu fel sylfaen ar gyfer economi Cymru drwy drosglwyddo neges gadarnhaol o Gymru."
Prif gamau gweithredu strategaeth Croeso i Gymru: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-25
Cronfa Pethau Pwysig, sy'n werth £10m, i gefnogi'r seilwaith twristiaeth, sy'n rhan o ddarparu profiadau o ansawdd uchel i ymwelwyr
Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth, sy'n werth £50m, mewn partneriaeth â Banc Datblygu Cymru, ar gyfer prosiectau sy'n canolbwyntio ar gynhyrchion o ansawdd uchel ac yn hybu enw da Cymru
Sefydlu Digwyddiadau Cymru i ddatblygu, cynyddu a denu digwyddiadau diwylliannol, busnes a chwaraeon
Hoelio sylw ar gynhyrchion ac ar ddatblygu profiadau sy'n "adlewyrchu cryfderau anhygoel Cymru fel gwlad"
Canolbwyntio ymdrechion marchnata ar dwristiaeth yn ystod cyfnodau tawel, gan annog pobl i wario mwy yng Nghymru a gwasgaru manteision twristiaeth
Dwy flwyddyn thematig newydd, sydd eto i'w cyhoeddi, ar gyfer 2022 a 2024.
Dywed Llywodraeth Cymru bod sector twristiaeth Cymru "mewn sefyllfa gref ac ar drywydd i gyflawni 10% o dwf a nodwyd yn darged saith mlynedd yn ôl".
"Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae Cymru wedi croesawu'r niferoedd uchaf erioed o ymwelwyr y DU a gwelwyd 14% o dwf unwaith eto mewn twristiaeth ddomestig y llynedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2019