Fandaliaid yn chwalu cae Clwb Rygbi Ystradgynlais
- Cyhoeddwyd

Mae maes ymarfer rygbi plant ym Mhowys wedi ei ddinistrio gan fandaliaid yn gyrru car ar y glaswellt.
Fe ddaeth gwirfoddolwyr o hyd i'r difrod ar gae Clwb Rygbi Ystradgynlais, sy'n cael ei ddefnyddio gan fwy na 200 o aelodau, ddydd Gwener.
Dywedodd y clwb fod lluniau CCTV wedi eu trosglwyddo i'r heddlu, a bod cwmni tirlunio wedi cynnig adfer y cae.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn y "weithred hunanol".
Dywedodd un o hyfforddwyr y clwb, Gareth Thomas, a ddaeth o hyd i'r difrod, fod y digwyddiad wedi bod yn "ergyd" i'r clwb a'r gwirfoddolwyr.
Fe ychwanegodd: "Roedd hyn yn sioc fawr, ac yn rhwystredig i'r clwb ac i ni fel gwirfoddolwyr."
Dywedodd Mr Thomas y bydd hi'n bosib i'r bobl ifanc ymarfer ar gae arall, ond fe fydd peth amser nes bydd y cae sydd wedi ei ddifrodi ar gael i'w ddefnyddio unwaith eto.
