Galw ar Gymru i fod yn rhan o drafodaethau Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Brexit Cymru wedi galw ar i Lywodraeth Cymru fod yn rhan o unrhyw drafodaethau ynglŷn â pherthynas y DU gyda'r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.
Yn ôl Jeremy Miles fe ddylai unrhyw agwedd o Brexit sy'n effeithio ar ddatganoli gael ei gymeradwyo yma yng Nghymru.
Bydd yn rhaid newid nifer sylweddol o bolisïau a rheolau Ewropeaidd yn y cynulliad pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r rhain yn cynnwys cymorthdaliadau i ffermwyr sy'n cael eu gweinyddu gan Lywodraeth Cymru.
Yr wythnos diwethaf fe bleidleisiodd y cynulliad, ynghyd â'r deddfwriaethau datganoledig eraill yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn erbyn deddfwriaeth Brexit Boris Johnson.
Pleidleisiau symbolaidd oedd y rhain i bob pwrpas a fydden nhw ddim yn atal Brexit ar 31 Ionawr.
Llais cryfach i Gymru
Mewn cyfweliad ar raglen Sunday Supplement ar BBC Radio Wales dywedodd Jeremy Miles: "Ry'n ni angen bod yn rhan o'r trafodaethau er mwyn diogelu buddiannau Cymru.
"Ry'n ni wedi dweud wrth Lywodraeth y DU dros fisoedd lawer ein bod ni yn disgwyl i Lywodraeth Cymru fod â rhan yn y trafodaethau yn yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod.
"Pan mae 'na faterion datganoledig yn y fantol ddylai Llywodraeth y DU, fel arfer, ddim bwrw 'mlaen i negydu heb ein cytundeb ni."
Bydd y safbwynt yma yn cael ei gyfleu eto yn nes ymlaen yr wythnos hon pan fydd gweinidogion o bob rhan o'r DU yn cwrdd yng Nghaerdydd.