Rhybudd melyn am rew i rai mannau nos Lun

  • Cyhoeddwyd
Rhybudd

Mae rhybudd melyn am rew wedi dod i rym dros ran helaeth o Gymru.

Dechreudodd y rhybudd gan y Swyddfa Dywydd am 19:00 nos Lun ac fe fydd mewn grym tan 10:00 fore Mawrth.

Yr ardaloedd dan sylw yw Sir Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Powys a Wrecsam.

Mae disgwyl cawodydd o law, cenllysg ac eirlaw dros gyfnod y rhybudd, ac fe all hyn arwain at rew wrth i'r tymheredd blymio o dan y rhewbwynt.

Fe allai rhai ardaloedd ar dir uchel weld rhywfaint o eira hefyd, ac mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gall rhai teithiau gael eu heffeithio.