'Angen brys' i israddio adran ddamweiniau ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Protestwyr y tu allan i gyfarfod y bwrdd iechyd ddydd Iau
Disgrifiad o’r llun,

Protestwyr y tu allan i gyfarfod y bwrdd iechyd ddydd Iau

Mae prinder staff yn golygu bod angen "gweithredu ar frys" i gyflwyno cynlluniau i israddio adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yn ôl penaethiaid.

Mae cynlluniau i gau'r uned yn llwyr, neu dros nos, yn cael eu trafod gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ddydd Iau.

Yn y cyfamser fe wnaeth tua 200 o brotestwyr ymgynull y tu allan i'r cyfarfod i leisio'u pryderon am y cynlluniau.

Cafodd y penderfyniad i ganoli gofal brys mewn llai o ysbytai yn yr ardal ei gymryd bum mlynedd yn ôl.

Ond mae'r bwrdd iechyd bellach yn dweud bod angen cyflawni hyn ar fyrder er mwyn osgoi "risg annerbyniol i ddiogelwch cleifion".

Ar nosweithiau Nadolig a San Steffan bu'n rhaid dargyfeirio ambiwlansys o Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant i Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful oherwydd diffyg meddygon.

Ond dywedodd un o'r protestwyr, Jeff Jones, sydd o Frynsadler ger Pont-y-clun, y byddai canoli gwasanaethau brys ym Merthyr yn "wirion".

"Mae trwch y boblogaeth yn bellach i'r de, ac fe fyddai'n broblematig iawn felly i'w leoli ger parc cenedlaethol Bannau Brycheiniog," meddai.

Ychwanegodd Erica Taylor o Bontypridd: "Mae'n rhaid i ni deithio i Ysbyty Brenhinol Morgannwg fel y mae hi.

"Os oes rhaid i ni deithio'n bellach i Ysbyty'r Tywysog Charles neu i Ben-y-bont mae e mas o'r ardal, ac fe allai hynny fod yn beryglus i bobl sy'n sâl."

Beth yw'r broblem?

Mae lefelau staffio'r adrannau brys ym mhob un o'r tri ysbyty yn ardal Cwm Taf Morgannwg - Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru - ymhell islaw y safonau ledled Prydain.

Yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg mae'r sefyllfa wedi gwaethygu yn ystod yr wythnosau diwethaf gydag ymddiswyddiad yr unig feddyg ymgynghorol llawn amser yn adran frys yr ysbyty.

Yn ôl y bwrdd iechyd mae ymddeoliadau ynghyd â phrinder meddygon yn golygu bod modd cynnal gwasanaethau brys yn y tri ysbyty yn bosib yn y tymor byr yn unig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae creu uned mân anafiadau 24 awr dan arweiniad nyrsys yn un opsiwn i gymryd lle'r adran frys

Roedd sefyllfa ddifrifol yn gynharach wedi arwain at ddargyfeirio ambiwlansys o Lantrisant i Ferthyr Tudful dros gyfnod y Nadolig.

Mae'r bwrdd iechyd yn dweud bod yr ysbyty eisoes yn ddibynnol iawn ar staff asiantaeth.

Beth yw'r argymhellion?

Mewn cyfarfod yn Abercynon bydd gofyn i'r bwrdd iechyd llawn gymeradwyo ystyriaethau pellach i'r ddau opsiwn sy'n cael eu trafod.

Y cyntaf o'r rhain yw disodli'r adran frys dan arweiniad ymgynghorwyr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg gydag uned mân anafiadau 24 awr dan arweiniad nyrsys.

Yn ôl y bwrdd iechyd byddai'r cynnig yma'n arwain at fwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau meddygon teulu a chymunedol ar gyfer y rhai sydd ddim angen gofal brys.

Yr ail opsiwn fyddai cau'r adran frys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg am gyfnod dros nos, a rhoi'r cyfrifoldeb yn nwylo nyrsys mewn uned mân anafiadau yn ystod yr amseroedd eraill.

Byddai'r cyfnod o gau'r adran yn seiliedig ar ddadansoddiad o'r galw presennol.

Mae'r ddau opsiwn hefyd yn cynnwys edrych ar ffyrdd amgen i alluogi meddygon teulu a pharafeddygon i gyfeirio cleifion yn uniongyrchol i wardiau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg pe na bai uned frys wedi ei lleoli yno.

Mae'r ddau gynllun posib hefyd yn gysylltiedig â'r datblygiad o symud gofal plant o Ysbyty Brenhinol Morgannwg i Ysbyty'r Tywysog Siarl ym mis Medi 2020.

Ffynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Does yr un meddyg ymgynghorol llawn amser yn adran frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg bellach

Bydd y bwrdd iechyd hefyd yn parhau i ganolbwyntio ar ddatblygu'r ysbyty yn Llantrisant fel canolfan arbenigol ar gyfer meddygaeth acíwt, cleifion allanol a gwasanaethau diagnostig.

Mae'r opsiwn o beidio newid pethau yn "anghynaladwy".

Ai cynllun newydd yw hwn?

Cafodd cynllun oedd yn cynnwys cau uned frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg ei gymeradwyo gan bum bwrdd iechyd yn ne Cymru yn 2014.

Roedd hyn yn sgil pryderon bod gofal mamolaeth, gofal newydd-anedig, gofal plant mewn ysbytai a meddygaeth frys ar ormod o wasgar ar draws sawl safle.

Ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus a llawer o drafod fe gytunodd y byrddau iechyd a chynghorau iechyd cymunedol ar gyfres o argymhellion.

Er bod gofal mamolaeth o dan arweiniad ymgynghorydd meddygol wedi ei ganoli yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful ar gyfer holl ardal Cwm Taf, nid oes newid wedi bod yn y ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys.

Mae newidiadau i ofal plant mewn ysbytai wedi'u gohirio sawl gwaith.

Beth yw ymateb Cwm Taf Morgannwg?

Mae cyfarwyddwr meddygol Cwm Taf Morgannwg, Dr Nick Lyons, gafodd ei benodi y llynedd, yn dweud bod mwyafrif y meddygon yn adran frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn staff dros dro.

Dywedodd bod hyn yn codi materion yn ymwneud â diogelwch, oherwydd doedd dim modd sicrhau hyfforddiant a datblygiad na gwaith tîm effeithiol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Nick Lyons nad oes modd darparu gwasanaeth diogel yn adran frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Ychwanegodd y byddai'n rhaid deall faint o bwysau ychwanegol y byddai cau adran frys yr ysbyty yn ei roi ar unedau eraill oedd wedi eu staffio'n well.

"Yr hyn sydd ei angen yw gwasanaeth diogel mae modd dibynnu arno, mae modd ymddiried ynddo, sy'n gallu ymateb i'ch anghenion a'ch trin yn effeithiol," meddai.

"Ar hyn o bryd nid oes modd darparu hynny [yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg].

"Mae'n hawdd edrych yn ôl a dweud efallai y dylid bod wedi gwneud penderfyniadau yn gynharach... ond nawr mae angen i ni ddal i fyny a gwneud pethau'n iawn."