Cyn-chwaraewr Cymru, David Cotterill yn arwyddo i'r Barri
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Cotterill gôl hollbwysig yn erbyn Cyprus yn rowndiau rhagbrofol Euro 2016
Mae cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, David Cotterill wedi arwyddo i'r Barri.
Fe gyhoeddodd Cotterill yn 2018 ei fod yn ymddeol o bêl-droed yn 30 oed.
Enillodd 24 o gapiau a sgorio dwy gôl i'w wlad ac roedd hefyd yn aelod o garfan Cymru yn ystod Euro 2016.
Fe gyhoeddodd Y Barri, sy'n bedwerydd yn Uwch Gynghrair Cymru ar hyn o bryd, eu bod wedi arwyddo Cotterill, dolen allanol ddydd Iau.
Yn ystod ei yrfa mae Cotterill, 32, wedi chwarae i nifer o glybiau gan gynnwys Bristol City, Wigan Athletic, Sheffield United, Birmingham City ac Abertawe.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2018