David Cotterill yn ymddeol o bêl-droed yn 30 oed
- Cyhoeddwyd
Mae David Cotterill wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl-droed yn 30 oed ar ôl ennill 24 o gapiau a sgorio dwy gôl i'w wlad.
Dywedodd yr asgellwr mewn datganiad ar wefan cymdeithasol mai dyma'r "amser cywir" i ddod â'i yrfa fel chwaraewr i ben.
Yn ystod ei yrfa mae Cotterill wedi chwarae i nifer o glybiau gan gynnwys Bristol City, Wigan Athletic, Sheffield United, Birmingham City ac Abertawe.
Roedd hefyd yn aelod o garfan Cymru yn ystod Euro 2016 - a lwyddodd i gyrraedd y rownd gynderfynol.
Yn ystod y rowndiau rhagbrofol ar gyfer y gystadleuaeth honno, fe sgoriodd Cotterill gôl holl bwysig mewn buddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Cyprus yng Nghaerdydd.
'Gwireddu breuddwyd'
Ychwanegodd y datganiad: "Rydw i wrth fy modd fy mod i wedi gwireddu breuddwyd fy mhlentyndod, ond mae hi'n amser nawr i ddechrau pennod newydd yn fy mywyd - un fydd yn canolbwyntio ar helpu eraill.
"Hoffwn ddiolch yn arbennig i Brian Tinnion am roi cyfle i mi yn fy ngêm gystadleuol gyntaf yn Bristol City, a thîm cenedlaethol Cymru am gynnig cyfleoedd sydd wedi diffinio fy ngyrfa megis Euro 2016.
"Rydw i wedi mwynhau fy nghyfnod gyda phob un o'm cyn-glybiau, yn enwedig ennill y gynghrair gyda Doncaster Rovers, helpu Abertawe i ennill dyrchafiad a'r cyfnod gyda Birmingham City."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2018