Menyw gafodd ei thynnu o'r Afon Tywi wedi marw
- Cyhoeddwyd

Derbyniodd yr heddlu adroddiadau bod menyw yn yr Afon Tywi ddydd Iau
Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod menyw gafodd ei thynnu o afon yng Nghaerfyrddin ddydd Iau wedi marw.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ran o'r Afon Tywi ger B&Q yn y dref tua 12:45.
Fe dynnodd swyddogion Heddlu Dyfed Powys y fenyw o'r dŵr ac fe gafodd ei chludo i'r ysbyty i dderbyn gofal brys.
Cadarnhaodd yr heddlu ddydd Gwener ei bod wedi marw.
Mae teulu'r fenyw, a oedd yn ei 70au, yn derbyn cymorth arbenigol.
Nid yw ei marwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.