Cau swyddfa bost Bethel: Siom cais grant loteri

  • Cyhoeddwyd
Cledwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cledwyn Jones yn teimlo bod cyfle wedi'i golli

Wrth i siop a swyddfa bost Bethel yng Ngwynedd gau ddydd Sadwrn, mae'r perchennog wedi dweud ei fod yn rhwystredig na chafodd addewidion eu cadw i'w droi yn fenter gymunedol.

Yn ôl y perchennog Cledwyn Jones roedd disgwyl i'r cynghorydd lleol, Sion Jones wneud cais loteri am grant ar ran y gymuned.

Ond dywedodd na chafodd hyn ei wneud.

Wrth ymateb mae Sion Jones wedi dweud wrth BBC Cymru mai "diffyg diddordeb" sydd ar fai.

Neges destun

Mae'r siop wedi bod dan berchnogaeth Cledwyn Jones ers bron i 14 mlynedd ac mae wedi bod yn weithredol ers dros 60 o flynyddoedd.

Ar ei ddiwrnod olaf fe ddaeth degau o gwsmeriaid i ffarwelio ac i ddiolch i Mr Jones a'i deulu am eu gwasanaeth.

"Fe wnaethom ni witchiad felly fe wnes i ffonio'r cynghorydd ond nes i ddim clywed dim byd," meddai.

"Ac wedyn oedd un o'r committee wedi gyrru text iddo yn gofyn i weld y papurau i weld be' oedd yn digwydd efo'r grant, ond cafodd text yn ôl i ddweud nad oedd [Sion Jones] wedi applyio [am y grant]."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Sion Jones nad oedd digon o ddiddordeb i droi'r swyddfa post yn fenter gymunedol

Wrth siarad â BBC Cymru fe ddywedodd y Cynghorydd Sion Jones ei fod yn "drist" o weld y siop yn cau a bod gwasanaeth y perchenogion wedi bod "uwchlaw a thu hwnt".

Mynnodd ei fod wedi "edrych ar opsiynau o fenter gymunedol" ond fod yna "ddiffyg diddordeb".

Aeth ymlaen i ddweud ei fod wedi gweithio'n galed yn y gymuned i ddod â buddsoddiad i'r ardal.

Wrth gau'r siop fe fynegodd nifer o drigolion eu rhwystredigaeth gan ddweud mai hwn oedd siop olaf y pentre' ac y byddai nifer yn gorfod teithio i unai Llanrug neu Caernarfon am y gwasanaethau.