Rhybudd melyn am dywydd garw dros y penwythnos

  • Cyhoeddwyd
PorthcawlFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rhybudd melyn wedi ei gyhoeddi am dywydd garw ar draws Cymru dros y penwythnos.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod y rhybudd am wyntoedd cryfion a glaw yn dechrau am hanner nos, nos Sadwrn, ac yn dod i ben am hanner nos ar nos Sul.

Fe allai'r tywydd effeithio ar drefniadau teithio cannoedd o gefnogwyr rygbi Cymru sy'n teithio 'nôl o Iwerddon wedi'r gêm Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r gwynt hyrddio hyd at 80mya, ac mae'r rhybudd mewn grym dros Gymru gyfan ac Iwerddon.

Mae rhybudd melyn arall am law mewn grym rhwng hanner nos, nos Sadwrn a 21:00 ddydd Sul, a hynny mewn rhannau o'r gogledd a'r de.

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybuddion am wynt a glaw mewn grym trwy gydol dydd Sul

Mae Met Eireann - swyddfa dywydd Iwerddon - yn dweud y bydd Storm Ciara yn symud dros y wlad ddydd Sadwrn gan gynyddu mewn grym ddydd Sul ar hyd arfordir Iwerddon.

Yn ôl y rhagolygon, mae "posibilrwydd bychan" y gall y tywydd effeithio ar y cyflenwadau trydan a threfniadau teithio pobl.

Mae ras hanner marathon Llanelli wedi ei gohirio gan y trefnwyr, yn dilyn pryderon am y tywydd.

Roedd y ras i fod i gael ei chynnal ddydd Sul ond nawr fe fydd yn cael ei hail-drefnu ar gyfer 8 Mawrth.

Dywedodd y trefnwyr fod yn rhaid iddyn nhw flaenoriaethu diogelwch y rhedwyr, gwirfoddolwyr, criwiau technegol a gwylwyr.