Cwmni yswiriant o Sir y Fflint yn diswyddo 61 o weithwyr
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni yswiriant wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, gan arwain at 61 o ddiswyddiadau ymysg ei 85 o weithwyr.
Cafodd Staveley Head Limited o Gei Connah, Sir y Fflint, ei sefydlu yn 1991, ac roedd yn darparu yswiriant arbenigol.
Roedd ei bolisïau yswiriant yn cael eu gwarantu gan yswiriwr o Ddenmarc, ond daeth y cytundeb i ben pan gafodd y cwmni hwnnw broblemau ariannol.
"Arweiniodd hyn at golli'r rhan fwyaf o fusnes cwmni Staveley Head dros nos," meddai un o'r gweinyddwyr, Steven Muncaster.
Mae'r cwmni yn darparu yswiriant arbenigol ar gyfer tacsis, y diwydiant moduro, loriau a faniau.