Adran Dau: Casnewydd 0-1 Caergrawnt
- Cyhoeddwyd

Jordan Green o Gasnewydd yn taclo ei wrthwynebydd Liam O'Neil
Colli wnaeth Casnewydd adref yn erbyn Caergrawnt brynhawn Sadwrn a hynny wedi i gôl Liam O'Neil sicrhau tri phwynt i'r ymwelwyr.
Roedd yna ddau gyfle i Jamille Matt roi Casnewydd ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond roedd gôl-geidwad yr ymwelwyr yn drech na'r ergydion.
Ergyd gan Paul Mullin ddaeth â sgôr i'r gêm. Wrth i Tom King geisio ei hatal ymatebodd O'Neil yn gyflym gan roi Caergrawnt ar y blaen wedi 68 munud.
Mae Casnewydd felly wedi disgyn i safle 13 yn y tabl a Caergrawnt wedi codi i fod yn 15fed.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd10 Awst 2019