Dyn yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad difrifol
- Cyhoeddwyd
![Gwrthdrawiad Caerfyrddin](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/12E95/production/_110816477_rtccaerfyrddin.jpg)
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar gyrion Caerfyrddin.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i lôn ddwyreiniol yr A40, yn ardal y gyffordd â'r B4312, Travellers Rest o gwmpas 13:00 ddydd Gwener.
Cafodd dyn oedd yn gyrru cerbyd Toyota Hilux arian ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Mae'r llu'n awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â lluniau o'r cerbyd yn gyrru ar yr A40 i gyfeiriad Caerfyrddin o Sanclêr.