Isafswm pris alcohol ar fin dod i rym 'i achub bywydau'
- Cyhoeddwyd
Bydd ymgyrch yn cael ei lansio ddydd Llun i ragrybuddio siopau a'r cyhoedd am isafswm newydd cost alcohol yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau i adwerthwyr godi o leiaf 50c yr uned - sy'n golygu y byddai can o seidr yn costio o leiaf £1 a photel o win yn £4.69.
Bydd y gyfraith yn dod i rym 2 Mawrth.
Mae'r Alban yn gweithredu system debyg ers Mai 2018.
Ddydd Llun bydd hysbysebion i'w gweld ar y cyfryngau ac ar y we er mwyn rhybuddio pobl am y newid.
Dywed y llywodraeth mai targedu adwerthwyr yw'r prif nod.
500 yn marw bob blwyddyn
Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018, dolen allanol yn dweud wrth adwerthwyr am ddefnyddio fformiwla ar gyfer prisio.
Y fformiwla yw: Isafswm pris yr uned (£0.50) x cryfder (%) x cyfaint (litrau) = isafswm pris y dylid gwerthu'r cynnyrch.
Roedd disgwyl i'r ddeddf yng Nghymru ddod i rym erbyn haf 2019, ond roedd oedi yn dilyn pryderon gan Bortiwgal am wneud gwinoedd o'r wlad yn "llai cystadleuol".
Dywedodd Llywodraeth Cymru, sydd newydd gyhoeddi gwaith ymchwil yn y maes, dolen allanol, "bod y niwed mae alcohol yn ei achosi yn fater iechyd cyhoeddus difrifol sy'n arwain at 500 o farwolaethau y flwyddyn.
"Ry'n yn cyflwyno isafswm pris i geisio gostwng y niwed sy'n cael ei wneud.
"Mae'r polisi yn targedu yfed sy'n niweidiol ac yn canolbwyntio ar ddiodydd pris isel a diodydd o gryfder alcohol uchel."
Mae gweinidogion yn amcangyfrif fod gofal iechyd sy'n ymwneud ag alcohol yn costio £159m.
Roedd pryderon, ymhlith rhai, y gallai codi prisiau arwain rhai yfwyr trwm at sylweddau eraill mwy niweidiol.
Does dim cynlluniau i gyflwyno isafswm pris yn Lloegr na Gogledd Iwerddon ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd15 Medi 2016