Isafswm pris alcohol i ddod i rym ym Mawrth 2020

  • Cyhoeddwyd
AlcoholFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd isafswm pris ar gyfer prynu alcohol yng Nghymru yn dod i rym ar 2 Mawrth y flwyddyn nesaf dan gynlluniau newydd gan Lywodraeth Cymru.

Mae gweinidogion eisiau i adwerthwyr godi o leiaf 50c yr uned - sy'n golygu y byddai can o seidr yn costio o leiaf £1 a photel o win yn £4.69.

Fe gafodd y cynlluniau, gafodd eu dylunio i daclo marwolaethau a sefyllfaoedd pan mae pobl yn cael eu cymryd i'r ysbyty am resymau sy'n ymwneud ag alcohol, eu hoedi ar ôl i Bortiwgal wrthod y syniad.

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi cadarnhau'r dyddiad mewn datganiad i ACau.

'Llai cystadleuol'

Bydd yn rhaid i'r newidiadau - rhoi'r amserlen yn ei le a'r prisiau - gael eu derbyn yn gyntaf gan ACau ym mis Tachwedd.

Mae system debyg eisoes yn gweithredu yn Yr Alban ers Mai 2018.

Mae gwerthiant alcohol ar ei isaf ers dechrau'r 1990au - er doedd adroddiad methu ag asesu effaith y prisiau ar y ffigyrau.

Roedd disgwyl i'r ddeddf yng Nghymru ddod i rym erbyn yr haf, ond roedd oedi yn dilyn pryderon gan Bortiwgal am wneud gwinoedd o'r wlad yn "llai cystadleuol".

Fe wnaeth y ffaith eu bod yn gwrthod y syniad olygu bod rheolau'r UE wedi dod i rym, gan atal gweinidogion rhag bwrw ymlaen.

Marwolaethau

Mae pryderon hefyd wedi eu codi y gallai codi prisiau arwain rhai o yfwyr trwm i sylweddau eraill mwy niweidiol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwaith ymchwil ar y broblem fydd yn cael ei gyhoeddi ddiwedd Hydref.

Roedd mwy na 500 o farwolaethau oedd yn ymwneud ag alcohol a 55,000 o bobl wedi eu cymryd i'r ysbyty oherwydd alcohol yng Nghymru yn 2017.

Mae gweinidogion yn amcangyfrif fod gofal iechyd sy'n ymwneud ag alcohol yn costio £159m.

Yn ôl academyddion buasai codi 50c fel isafswm yn arwain at 66 yn llai o farwolaethau sy'n ymwneud ag alcohol (8.5%).