Barnu 'rhwystr' ar isafswm pris alcohol
- Cyhoeddwyd

Mae meddygon wedi barnu camau i rwystro gosod isafswm ar bris alcohol yng Nghymru, wedi i ASau wrthod datganoli grymoedd prisio.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau gosod isafswm o 50c am bob uned o alcohol sy'n cael ei werthu.
Ond dywed gweinidogion llywodraeth y DU y dylai penderfyniadau deddfu ar gyfraith alcohol barhau yn San Steffan am ei fod yn gysylltiedig â phlismona.
Yn ôl Cymdeithas y Meddygon (BMA) yng Nghymru mae'r sefyllfa'n "rhwystr" posib i fesurau allai "achub bywydau".
Mae ymchwil gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu y gallai codi isafswm o 50c yr uned arbed bron i £900m dros 20 mlynedd drwy gwtogi trosedd ac afiechydon, gan arwain at 50 o farwolaethau'n llai bob blwyddyn.
'Misoedd o gecru'
Dywed gweinidogion ym Mae Caerdydd fod eu cais am reolaeth dros bris alcohol wedi ei wrthod gan ASau yn dilyn "misoedd o gecru", wrth i'r ASau gymeradwyo Mesur Cymru ddydd Llun ar rymoedd pellach i'w datganoli.
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru: "Mae Llywodraeth y DU yn ystyried bod trwyddedu alcohol wedi ei gysylltu'n agos gyda phlismona a chadw trefn gyhoeddus.
"O gofio fod plismona a chyfiawnder troseddol yn faterion sydd wedi'u dal yn ôl, fe ddylai trwyddedu alcohol gael ei ddal yn ôl hefyd."
Dywedodd Dr Phil Banfield, cadeirydd cyngor BMA Cymru, y byddai cyflwyno isafswm ar unedau alcohol yn atal gwerthu alcohol sy'n "rhatach na dŵr".
"Rydym yn credu y byddai cam o'r fath yn achub bywydau drwy achosi gostyngiad mewn yfed alcohol," meddai.
"Rydym yn wynebu rhwystr posib arall i wireddu'r camau hyn yng Nghymru. Mae BMA Cymru yn croesawu unrhyw gamau ymlaen yn y gwaith o wneud hyn yn realiti yng Nghymru, gyda chynnal iechyd pobl yn flaenoriaeth."

Pryder
Mae cyfarwyddwr Alcohol Concern Cymru, Andrew Misell, hefyd wedi lleisio ei bryder am bris rhad alcohol.
"Er bod alcohol yn rhannol yn fater plismona a chyfiawnder troseddol, mae'n fater sylfaenol o iechyd cyhoeddus," meddai.
"Gydag alcohol ar werth yng Nghymru am bris mor isel â 15½c yr uned, gyda chynllun isafswm pris unedau wedi ei wrthod yn ôl pob tebyg yn Lloegr, byddwn yn dweud fod yr amser yn iawn i roi'r arfau i'r Cynulliad i gwblhau'r gwaith."
Dywedodd Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru, llefarydd yr wrthblaid ar iechyd: "Rydym wedi pleidleisio ar newidiadau i Fesur Cymru i sicrhau fod y grym dros reoleiddio'r agwedd bwysig yma o iechyd cyhoeddus wedi ei ddatganoli i Gymru.
"Mae Plaid Cymru o'r farn y byddai isafswm pris alcohol yn arwain at arbedion mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill o ganlyniad i lai o bobl yn mynd i ysbytai, a llai o ymddygiad gwrth-gymdeithasol."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cadw llygad ar y sefyllfa yn yr Alban, lle mae isafswm pris ar unedau alcohol yn wynebu her gan gynhyrchwyr wisgi, sy'n dweud fod y cam yn groes i gyfraith Ewrop.