Rhybudd am drafferthion teithio wedi Storm Dennis
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i gefnogwyr rygbi wynebu trafferthion teithio ychwanegol ddydd Sadwrn oherwydd y llifogydd a'r tirlithriadau ddaeth yn sgil Storm Dennis.
Dyw nifer o drenau'r cymoedd ddim yn teithio, ond fe wnaeth y rheilffordd rhwng Y Fenni a Henffordd ailagor fore Sadwrn.
Bydd ffyrdd Caerdydd ar gau o 13:15 tan 19:45, gyda chic gyntaf y gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad rhwng Cymru a Ffrainc am 16:45.
Bu Heol Casnewydd yn nwyrain Caerdydd ynghau hefyd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd fore Sadwrn.
Mae Cyngor Caerdydd yn rhybuddio teithwyr i adael digon o amser ar gyfer eu siwrne.
Mae disgwyl i 75,000 o gefnogwyr deithio i Stadiwm Principality ac mae rhybudd penodol am drafferthion i'r rhai sy'n teithio o'r cymoedd.
Mae'r rheilffordd o Gaerdydd i Lynebwy ar gau rhwng Crosskeys a Glynebwy wedi tirlithriad yn Aberbîg, a does dim trenau yn teithio ar lein Aberdâr wedi difrod i'r cledrau rhwng Aberdâr a Phontypridd.
Mae lein Treherbert ar gau wedi tirlithriad yn Nhrehafod, ond fe wnaeth y rheilffordd rhwng Y Fenni a Henffordd ailagor fore Sadwrn wedi'r llifogydd.
Bysys fydd yn teithio rhwng y gorsafoedd sydd ar gau.
Bydd nifer o ffyrdd ar gau ynghanol y brifddinas o 13:15 ymlaen - gan gynnwys rhannau o Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2020