Eisteddfod yr Urdd yn nodi cyfraniad Margaret Edwards

  • Cyhoeddwyd
Margaret EdwardsFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Mae Eisteddfod yr Urdd wedi enwi'r diweddar Margaret Edwards fel un o lywyddion anrhydeddus yr ŵyl yn Sir Ddinbych eleni.

Bu farw Ms Edwards, o ardal Betws Gwerful Goch, yn 74 oed ym mis Rhagfyr y llynedd.

Roedd hi'n gantores, cyfansoddwraig, hyfforddwr partïon ac arweinydd Côr Bro Gwerfyl.

Fe ganodd a chyfansoddodd nifer o ganeuon gyda'r tenor Trebor Edwards, a hi oedd yn gyfrifol am gyfieithu'r geiriau ar gyfer ei gân amlycaf, Un Dydd Ar Y Tro.

Hyfforddi cenedlaethau

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor gwaith eleni, Dyfan Phillips: "Gwyddai Gymru benbaladr am gyfraniad Margaret i fywyd cerddorol ein pobol ifanc.

"Meddai ar bersonoliaeth addfwyn a chynnes ac mae bwlch enfawr ar ei hôl. Mi gafodd ddylanwad mawr ar ein bro a diolchwn am hyn.

"Mae ein meddyliau oll efo'r teulu a braint mawr i ni fel pwyllgor gwaith yw cael ei chyflwyno fel llywydd anrhydeddus.

"Mae'r Eisteddfod wedi colli un o'i mawrion, ond diolchwn am ei chyfraniad aruthrol i ddiwylliant Cymru."

Yn ôl teulu a ffrindiau Ms Edwards roedd hi'n edrych ymlaen at Eisteddfod Dinbych ac wedi archebu copïau yn barod.

Fe fydd manylion y llywyddion eraill fydd yn cael eu hanrhydeddu yn yr Eisteddfod yn cael eu cyhoeddi cyn hir.

Bydd yr eisteddfod yn cael ei chynnal ar dir Fferm Kilford ger tref Dinbych o 25-30 Mai, 2020.