Gorymdaith i groesawu Eisteddfod Urdd Dinbych 2020
- Cyhoeddwyd
Mae tua 1,600 o bobl wedi bod yn gorymdeithio yn Sir Ddinbych ddydd Sadwrn er mwyn croesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2020.
Bydd yr ŵyl un cael ei chynnal yn Ninbych ym mis Mai flwyddyn nesaf.
Fe wnaeth plant, rhieni a chefnogwyr orymdeithio o Ysgol Uwchradd Prestatyn cyn cynnal prynhawn o ddigwyddiadau.
"Dy'n ni'n edrych ymlaen yn eiddgar at ddychweliad yr eisteddfod," meddai Hugh Evans, arweinydd y cyngor sir, cyn y digwyddiad.
Mae gorymdaith ddydd Sadwrn yn benllanw ar wythnos o ddigwyddiadau cyhoeddi.
"Mae yna draddodiad eisteddfodol cryf yma yn Sir Ddinbych ac mae unigolion brwdfrydig wedi bod yn cydweithio â'r Urdd i drefnu gŵyl i'w chofio," ychwanegodd Mr Evans.
Llynedd cafodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ei chynnal yng Nghaerdydd gan ddenu miloedd o ymwelwyr i'r brifddinas.
Yn ôl y trefnwyr, mae'r eisteddfod yn cyfrannu mwy na £11m i economi Cymru ac fe wnaeth adroddiad ddangos bod mudiad Urdd Gobaith Cymru yn werth £25.5m i'r economi yn y flwyddyn 2017-18.
Bydd yr eisteddfod yn cael ei chynnal ar Fferm Kilford ger Dinbych rhwng 25-20 Mai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2019
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2018