Cantores ac arweinydd côr wedi marw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau mai un o hoelion wyth byd cerdd y gogledd fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A5 ger Pentrefoelas nos Sadwrn.
Roedd Margaret Edwards o ardal Betws Gwerful Goch yn 74 oed ac yn gantores, cyfansoddwraig, hyfforddwr partïon ac arweinydd Côr Bro Gwerfyl.
Fe ganodd a chyfansoddodd nifer o ganeuon gyda'r tenor Trebor Edwards, a hi oedd yn gyfrifol am gyfieithu'r geiriau ar gyfer ei gân amlycaf, 'Un Dydd Ar Y Tro'.
Dywedodd ei theulu bod "ei chyfraniad i'w chymuned, addysg a cherddoriaeth yn amhrisiadwy".
Aeth eu datganiad ymlaen i'w disgrifio fel "mam ffyddlon i Elin, Leisa a Tudur a nain falch a serchus i naw o wyrion".
"Fel cantores a chyfansoddwr caneuon, arweinydd Côr Bro Gwerfyl a chyfieithydd y gân enwog Un Dydd Ar Y Tro, bydd pawb yn ei chofio ac yn hiraethu amdani."
Un cerbyd yn unig - Toyota Rav 4 arian - oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad nos Sadwrn 28 Rhagfyr.
Dywedodd y Sarjant Anja Macleod o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: "Mae teulu a ffrindiau Margaret Edwards yn ein meddyliau ar yr adeg anodd eithriadol yma.
"Rydym yn parhau i apelio ar unrhyw un oedd yn teithio ar hyd yr A5 tua 21:20 i gysylltu â ni."
Mae gofyn i unrhyw un all helpu'r ymchwiliad ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod X186642.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2019